Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanas i cyrph: ac a wddant ym-blaen llaw yn well nag y gwyddoch chwi, pa ryw ardymmer vydd ar yr hin, a llawer o ryw wybyddieth a hynny. Ef wyr lla­wer Nasion y saith gelfyddyt, or ny chlypu er oed o ywrth Christ. Ny wydd­och chwi er ech ehud cymmendot, nag vn gelfyddyt perfeith, na dim yn iawn ddilwgyr o fydd Christ. Ond gwrande­wch chwi etto pa peth a ddywedaf ui wrthych chwi, y sawl ny bo gobeith y­wch ar ddyscy saesnec ne iaith arall y bodysc ynthei: Gwrandewch (meddaf) pa ddywaewyf wrthych: A ny vynwch vynet yn waeth nag aniueilieit (y rain uy anet y ddyall mal dyn) mynuch ddysc yn ych iaith: a ny vyunwch vod yn v­wy annaturial na nasion y dan haul, hoffwch ych iaith ac ae hoffo. A ny vy­nwch ymado yn dalgrwn dec a fydd Christ, a ny vynwch yn lan fyth na bo ywch ddim a wneloch ac ef, ac any vyn­nwch trosgofi ac ebryfygy i ewyllys ef y gyd achlan, mynwch yr yscrythur lan yn ych iaith, mal ac y bu hi y gan ych de­dwydd henafieit yr hen Urytanueit. Ei­thyr gwedy wynt wy, pan ddechreod ych Rieni chwi, ae gohelyth wynt, (mal ydd hyspysa hen Cronicls) ddiyst yry a diurawy am yr yschrythur lan, a gada­el i llyfreu hi y orwedd yn gwrachot lly­chlyt mewn congleu didreigl ddyn, ac