Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Roedd gwall wrth brawfddarllen y dudalen hon

ystewy a moliant Deo, a hoffy cloduory eu enw ehunain: yd aeth Deo ac a bar­add yddynt gael i galw yn aliwns ac yn estron genetl yn y ganedic wlat ehunain ac a baradd yddynt gasay a fieiddio ia­ith i mammeu, rac dyscy o hanynt drw­yddhi y iawn adnabot ef, a rac bot trwy hynny yn catwedic. A llena weddill yr hen vellith ddeo er yn oes Kad-waladr vendigeit. Ond o mynwch ymwrthot ar hir vaith velltith hono, gestyngwch ar dai glinieu ych calon y erchi gras ar ddeo. Pererindotwch yn droednoeth, at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych ia­ith, er mwyn y cyniuer ohanoch or nyd yw n abyl; nac mewn kyfflypwriaethy ddyscy Sasnaec. Ond pe bysei rei om gwlad mor vwynion a gady ar vy elw yr eino vyhun, mi a wnethwn (a gat­wydd) o vudd ac o les kyffredyn mewn suwt betheu a vedryswn a ryw Cem­bro arall. Ond yr owrhon can yddint vy anreithio am espeilio mor llwyrgwbl. yn lle gweithret ny d allaf vi. hayach ond ewyllysy twrn da im gwlad, ac er­uyn y ddeo ddanfon yspryt gwell yn ca­loneu vecgwrthnebwyr. Ac am hyn o weithret sef am gyffredino hyn o ddia­rebion, ny ddylaf vi ddim angwanec diolch genwch mwy nag vn a godei y gwerchyr ne gayad o yar saic ne phial a ddygsit geyr ych bron. Eithyr (pe vei na thal na diolch yn yr oes heddy am vath petheu) e ddylye Gruffyth Hirae­thoc (pwy trwy ddyual y afrifed a thro­lythyr a poenws yn clafcy, yn cynull ac yn helkyd yr oll ddiarebion hyn yr vnl­le) gahel y ryw ddiolch ac a hayddei vwn a vyddei yn kyrchy at traws byt, ac yn arwein pop ryw oreusaic ac ew do dy yn rat geyr ych bron. Bychan ac o­uer genwch chwi ywaith ef ar hyn yma o orchwyl, tu ac at perfeithio r iaith. Ond im tyb i, nyd bychan o gymporth tu ac at adeilat tuy, yw cludo y sylueini, ae goet, ae gwnio, ae gody, ae roddy dan y wydd. Ac atolwc (o chreffwch yn dda) pa peth amgenach yw diarebion mewn iaith, na sylueini, na gwadne, na distie, na resi, na chyple a thrawste, ua thuyla­the a nenbrenni mewn tuy? A nyd yr vn nerth yw diarebion y gynal yr iaith, a r escyrn y gynnal y corph? A nyd yr vn pryduerthwch yw diarebion mewn ia­ith, ar ser yr fyruauen? Ac a nyd yr vn fy nyt yw diarebion mewn iaith a gēme, a main gwyrthuawr ymplith caregos fathredic? Je pa beth yw diarebion a nyd ryw wreichion o anueidrawl ddoe­thineb Deo, y ar ddargos gwneythyr dyn gynt ar lun y antraethawl ddelw ef? Ac y vyrhay, pa peth amgenach me­ddaf yw diarebion, anyd dywediadeu byrrion