Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18

Pan oedd y coed mewn melyn haul
Yn cyfarchdynion gyda dail,Pan gyd-delorai adar mån
Ar frig adfywiol goed ,
I Ddinas Bran daeth gwyneb glan
Myfanwy gynta' 'riood .
Daeth teulu Trefor bob yr un
I daflu golwg ar y fûn.
Uwch ben y fach yr oedd yno fyd,
Swn hwian, hwi, a siglo cryd,
A chyda 'r fam yr adeg hon
' Roedd nain a thaid yn gwenu 'n llon .
Medd un, “ Mae rhywbeth ynddi hi
debyg iawn i'n teulu ni ;" .
Yn
“ Des ebai'r llall, “ mae'i gên fach gron
Yn hollol fel ' roedd hon a hon ;
Y trydydd dybia 'i thrwyn bach main ,
" 'Run ffunud bron a thrwyn ei nain ;”
Ond barnai'r llall ei gwyneb crwn
“ Yn hollol fel ' roeddhwn a hwn."
“ Na, ” ebai'r taid , “ os hoffet ti
Gael llûn Angharad - dyma bi !" $
Deffrôdd Myfanwy gyda hyn ,
Pan oedd perth’nasau 'n dadlu 'n dŷn
Hi grïai'ndost,a'i grudd yn wleb ,
Ac ni thebygai ddim i neb .
Nid hir bu'r cryd, y lin, a'rfron
Yn gwneud genethig dlos o hon :
Diniwed oed y chwareu ddaeth,
Ond cyflym trwy'i theganau 'r aeth :
Di'styrllyd toc i'r lodes wen
Oedd bod yn fam i ddoli bren .
Hi ddaeth i hoffi rhodio 'r ardd,
I ddysgu caru 'r tlws a'r bardd

  • Yr oedd y foneddiges ieuanc,ynolyr hanes geir amdani, ac hefyd

ynolcrybwylliad Hywel, yn ein Nodiadcyntaf, yn un o linach antarwol
y Trevoriaid .

  1. Yroedd Angharad hefyd, gwraig hynod y Brenin Arthur,yn un o'r

boneddigesau a roddasantfriac arbenigrwddi deulu Trevor. Fel enw
a ddefnyådid gan y teulu y crybwyllir yma am Angharad.