Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

19

I ganu'n fwyn a chael boddhad
Yn nhelyn aur a chrwth ei thad ;
Ond ni ddigonodd hi ar hyn,
' Roedd rhaid cael ryban coch a gwyn , —
Mantelli têg o balidrud ,
'Nol diweddaraf ddull y byd.
A chur wnai boen i'w choryn bach
Nes ca’dd y benwisg hono,
A yrai'r boen oddiyno,
Wnai ben Myfanwy'n iach .
Gylch Dinas Bran y dyddiau gynt
'Roedd derw mawr yn lleddfu'r gwynt,
Ac yn eu plith hen geubren mawr
A fu am oesau'n gwyro i lawr,
' Run fath a Dinas Bran yn awr .

Ryw foreudaeth Myfanwy gu ,
I rodio heibio'r boncyff du ;
Hi welai agen yn y pren
Ac ynddi dlos beithynen wen ;-“ Beth allai fod ?" medd hi yn syn,
“ Beth allai fod mewn lle fel hyn ?"
Peithynen oedd, 'roedd hyny'n wir
Hi welai rai llyth’renau'n glir .
Ei mynwes ofnus chwyddai'n llawn,
Ni wyddai beth i wneyd yn iawn.
Hi syllai ogylchyma 'thraw
Ni welai neb ,—lliniarai ' braw ;
Chwilgarwch chwyddai ynddi'n gryf
Nes codai'i braich yn ofnus-hyf,
Ac ar y foment llaw fach wen
Gymerai 'r ysgrif hono'r pren :-+

  • " Peithynen, a frame of writing which consisted of a number of

four-sided or three -sided sticks writte j upon, which was puttogether
in a frame so that each stick might be turned round for the facility of
reading:" - DB. PUGAR.
Y Pillwydd a fyddant ddau hanerog bob carfan , sef fal y gellir eu
bagor a'u caead i gymeryd a chyfrwymaw'r Peithwydd neu'r eb illion
dwy garfan y sydd yn mhob caeogen.


Rbai a ddodenty peithwydd yn y lliw glas ylliwir gwlan ynddo, ag yn
sefyll nis bo glas lliw bob un o honynt a gadael iddynt sychu, ypa torri
llythyrau, a hwy a fyddantwynnion ac amlyccach ar y coed gleision na
phetysaint heb liw . - Iolo m.8.s.
+ Gellir canu y saith bennill dylynol ar y mesur Cymreig “ Mwynen
Merch , ” heblaw aryr alaw newydd gan Owain Alaw .