Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at "ddechreu byw," ac unig gynysgaeth ei briod ydoedd dau lyfr o waith y Piwritaniaid. Ond yr oedd Bunyan yn ŵr ieuanc diwyd, gonest, a medrus gyda'i orchwyl beunyddiol. Er yn ddieithr hyd yma i ddylanwadau crefyddol, nid oedd yn afradloni ei amser a'i dda yn y gyfeddach, ac yr oedd ei dymher fywiog, serchog, yn ei wneyd yn boblogaidd ym mysg ei gym'dogion. Bu y ferch ieuanc a briododd yn gynorthwy gwerthfawr iddo ym mhob ystyr. Drwy ei hofferynoliaeth hi y dysgodd efe ddarllen ac ysgrifennu, a daeth i fynychu y gwasanaeth crefyddol ar y Sabboth. Ond er yn ddyn arall, nid oedd yn ddyn newydd. Glynai wrth arferion bore oes, ond nid gyda'r un blas. Yr oedd cydwybod wedi deffro o'i fewn, a dychrynfeydd barn a byd arall yn ymruthro ger ei fron, nes ei yrru ar adegau i ymylon gwallgofrwydd. Profodd ingoedd argyhoeddiad yn ei enaid. Gwelwyd yntau, fel y Pererin a ddarlunir ganddo, yn ceisio ffoi o Ddinas Distryw. Gwyddai am Gors Anobaith, a bu yn rhodio Glyn Cysgod Angau. Dyna sydd yn gwneyd y Breuddwyd yn llyfr mor werthfawr i bererinion pob oes a gwlad. Y mae yn ddelweddiad byw, ffyddlawn o brofiad ei awdwr. Daeth allan, fel yntau, o'r cystudd mawr. Ond yn araf, yn raddol, torrodd y wawr ar ei feddwl, a throes cysgod angau yn foreu ddydd.