Dyma i chwi enghreifftiau ereill: —
"Fel ergyd gwefr i sglefrio."—(Eben Fardd)
"Dacw'r goedwig lom frigog."—(Eben Fardd)
Y mae saith math ar Gynghanedd Lusg, ond nid oes llawer o wahaniaeth rhyngddynt.
II. Y GYNGHANEDD DRAWS.
Yn y Gynghanedd hon,—
(a) Atebir y cydseiniaid sydd yn nechreu'r llinell gan yr un cydseiniaid yn niwedd y llinell.
(b) Rhaid newid y llafariaid rhyngddynt.
(c) Rhaid cael darn heb ddim cynghanedd yn y canol i gamu drosto.
Y mae chwe math ar Gynghanedd Draws; ni wnaf ond prin eu henwi. 1. Y DRAWS FANTACH.
"A Baich o'r dyfroedd yn Bwn."
Gwelwch,—
- (a) Fod y llinell yn dechreu ac yn diweddu gyda gair unsill.
- (b) Atebir y gydsain gyntaf yn y gair cyntaf â'r un gyd. sain yn nechreu'r gair olaf.
2. Y DRAWS DDISGYNEDIG.
"Y llyn hir fel llen arian."
Il n r // ll n r
Sylwch fod y gair olaf yn ddeusill, er ei gwneud yn ddis gynedig.
3. Y DRAWS GYFERBYN.
"A bregus flaenau briwgoed."
br g (s) // brg (d)
Sylwch fod yn rhaid i'r cydseiniaid a saif lle mae "s" a "d," fod yn wahanol.
4. Y DRAWS O GYSWLLT.
"O'u gyddfau pluog addfwyn."