Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pheidio bod yn humbug. A dydw'n hidio dim pa un ai newid ei feddwl ai peidio a wneiff En— Mr. Huws. Er ei fwyn ei hun, mi fydde'n well iddo newid 'i feddwl, mi gymra fy llw."

"Be sy'n dy gorddi di, dywed? Wyt ti wedi glân hurtio? Os nad oes gynat ti barch i ti dy hun, oes gynat ti ddim parch i dy dad a mine? Susi, weles i 'rioed monot ti'n dangos yr ysbryd ene o'r blaen. Mae gen' i ofn, 'y ngeneth i, nad wyt ti ddim wedi d'ail eni. Gweddïa am ras, 'y ngeneth bach i, a chymer ofal na chlyw dy dad monot ti yn dangos yr ysbryd ene, ne' mi fydd yn y pen arnat ti. A chofia—gwrando be dwy i'n ddeyd 'rwan—cofia ddangos pob parch i Mr. Huws pan ddaw o yma, a bod yn suful efo fo, ne' fydd yn fychan gan dy dad dy roi di ar tân."

"Bydae o'n gneud hyny, fydde ene fawr o fat nac o golled i neb. Ond peidiwch a phryderu, mam. O hyn allan, yr ydw i am barchu pawb, a 'rwyf yn gobeithio na chewch chi na nhad le i gwyno 'y mod i'n anmharchus o un creadur byw. 'Rydw i am lyfu'r llwch."

"'Rwyt ti am fod yn rhwbeth digon gwirion, mi dy wranta. Ond ddaru mi 'rioed ddisgwyl dy glywed di'n siarad fel hyn, Susi. 'Rwyt ti wedi fy ypsetio i'n arw, a 'rwyt ti bron gneud i mi gredu na wyddost di ddim am ddylanwad crefydd ar dy galon. Yr ydw i wedi deyd lawer gwaith wrth dy dad y dylase fo fod wedi cym'yd mwy o drafferth efot ti i dy ddysgu di mewn egwyddorion crefydd, a mae hyny yn ddigon amlwg erbyn hyn. A beth i feddwl honot ti nid wn i ddim. Ond y mae hyn yn ddigon plaen: er cymin siamplau da wyt ti wedi wel'd, fod dy ysbryd di yn ddiarth iawn i bethau crefydd, ne faset ti byth yn siarad fel 'rwyt ti wedi gneud."

"Yr ydach chi quite right, mam. Wn i ddim am ddylanwad crefydd y Beibl. Os ydw i'n dallt y Beibl—hunanymwadiad, sariad at Dduw, gostyngeiddrwydd, a gweithredoedd da ydi crefydd, a mae mywyd i, hyd yn hyn, wedi bod mor ddieithr i bethe felly a bywyd Lucifer ei hun. A deyd fy meddwl yn onest wrthoch chi, mam, 'does dim mwy o debygrwydd rhwng y grefydd a ddysgwyd i mi â chrefydd y Beibl, nag sydd rhwng Beelzebub a Gabriel."

"Susi, be sy arnat ti, dywed? Wyt ti mewn sterics, dywed? i fod yn tyngu ac yn rhegi ac yn enwi'r pethe hyll ene? ydi'r ysbryd drwg wedi dy feddianu di, dywed?"