PENNOD XX.
DOETHINEB SEM LLWYD.
Mi gredaf fod Sem Llwyd cystal teip o'r mŵnwr ag a gyfarfum
i erioed. Yr oedd yn fyr ac eiddil o gorpholaeth—ei wyneb yn
felyn—lwyd a theneu—ei gefn yn crymu tipyn—ei frest yn
bantiog, a'i anadl yn brin ac afrwydd—yn pesychu'n dost—yn
ysmocio o getyn byr—yn bwysig, gwybodus, a hunan-ddoeth,
ac yn hen ŵr, o ran yr olwg, cyn cyrhaedd ei driugain mlwydd
oed! Yr oedd gan Sem doraeth o wallt llwydgoch, yr hwn, er
nad oedd yn llaes, na phrofodd, gellid tybio, erioed fin y
siswrn, ond a ddeifid bob gauaf gan y gwynt a'r rhew, yr un
fath a'r gwrychoedd. Yr oedd ei lais yn gras—gryf, annghymesur,
fel pe na buasai yn perthyn iddo ef ei hun, neu fel pe
buasai wedi ei etifeddu yn ol ewyllys rhyw berthynas ymadawedig,
yr un fath a'r gôt a wisgai ar y Sabboth, yr hon oedd yn
rhy fawr iddo o lawer. Oni bae y gwyddid i sicrwydd beth
oedd oedran Sem, buasid yn tybied mai rhywun ydoedd o'r
cynoesoedd a adawyd gan angau fel un rhy ddiwerth i'w
gynhauafu. Cofus genyf fod rhyw syniad ffol yn fy meddwl mewn
perthynas i Sem—sef na fyddai efe farw, ac mai adfaelio o
dipyn i beth a wnai nes cyrhaedd diddymdra. Yr oedd Sem yn
hoff iawn o gymdeithas—nid yn gymaint er mwyn derbyn ag
er mwyn cyfranu addysg, ac, fel pawb o'r hil ddynol, hoffai
ymweled â'r teuluoedd a chymdeithasu â'r bobl a edmygent
fwyaf ei ddoethnineb. Tra yr oedd Pwllygwynt "yn myn'd,"
nid oedd Sem yn brin o gyfleusderau dyddiol i ysgafnhau ei
fynwes, er, fel y dywedwyd yn y benod o'r blaen, y byddai efe,
yn mhlith ei gydweithwyr, yn wyliadwrus iawn pa beth a pha
fodd y llefarai, ac yn rhoi ar ddeall bob amser ei fod yn
gwybod mwy o lawer nag a adroddai. A pho fwyaf a fyddai y
newyn am wybodaeth, dyfnaf yn y byd y ceisiai Sem wneud
yr argraff fod digon o ŷd yn ei Aifft ef ei hun. Byddai hyn,
weithiau, yn brofoclyd iawn, oblegid pan amlygid
cywreingarwch mwy na chyffredin am wybod rhywbeth, rhoddai Sem