Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wel Elin, druan. mo'r bore, Gwell i chwi fyn'd i'w golwg, Ewch, Mr. Davies, ewch, neu byddwch yn edifarhau ar ol hyn."

Nid oedd Mr, Davies wedi gweled Elin er y dydd y ganwyd Enoc. Blin oedd ei uniganedig, ei gysur, a'i eilun. Ond y diwrnod y ganwyd Enoc, gwnaeth Mr, Davies lŵ na siaradai efe â'i ferch yn dragywydd. Pa fodd bynag, pan ddywedodd y meddyg wrtho na welai Elin mo'r bore, teimlodd ei du mewn. yn rhoi tro, a'i waed fel pe buasai yn fferu ynddo. Cerddodd yn ol a blaen hyd y parlwr haner dwsin o weithiau, a dywedai cip—dyniadau ei wyneb arteithiau dwfn ei galon falch. Cychwynodd i fynu'r grisiau, a throdd yn ol. Cychwynodd eilwaith, a throdd yn ol. Oedd, yr oedd wedi gwneud llŵ na siaradai ofe â hi byth. Ond cofiai—ac yr oedd yn dda ganddo gofio— na ddywedodd efe nad edrychai arni. Cychwynodd drachefn i fynu'r grisiau, ac ni throdd yn ol y waith hon. Yr oedd Mr, Davies yn ŵr lluniaidd, hardd, a chadarn, ac ni theimlodd efe erioed cyn hyn un anhawsder i ddringo'r grisiau; ond, y tro hwn, teimlai ei goesau yn mron yn ymollwng. Yr oedd dwy nurse yn yr ystafell yn ymgomio yn ddistaw, a brawychwyd hwy gan ymddangosiad annisgwyliadwy Davies, ond ni ynganodd un o honynt air. Yr oedd Elin â'i llygaid yn gauedig, a'i hwyneb cân wyned a'r gobenydd oedd dan ei phen, a'i gwallt hir, yr hwn oedd cân ddued a'i phechod, yn llanast gwasgaredig a diofal o'i chwmpas. Gafaelodd Mr. Davies, megys o angenrheidrwydd, ym mhost y gwely, ac edrychodd yn ddyfal ar wyneb ei anwyl ferch. Y fath gyfnewidiad a welai! Ai Elin, ei anwyl Elin oedd hon? Anhygoel Nid oedd hi ond megys cysgod o'r hyn a fnasai. Eto, tebiai Mr. Davies, yr yr holl gyfnewidiad, nad oedd hi wedi colli dim o'r prydferthwch y teimlai efe bob amser mor falch o hono, ac, yn. wir, yr oedd Elin yn debycach nag y gwelsai efe hi erioed i'w mam, yr hon a gladdasai efe rhyw flwyddyn cyn hyny. Edrychodd yn ddyfal ar ei hwyneb gwelw, a dechreuodd ei galon feddalhau. Ond trodd ei lygaid a chanfu Enoc, gyda'i wyneb pinc, ei drwyn fflat, a'i ben moel, a dychwelodd digofaint a balchder clwyfedig Mr. Davies, ac ocheneidiodd yn drwm. Agorodd Elin er hamrantau, gan ddadguddio pâr o lygaid yr edrychasai ei thad arnynt fil o weithiau gydag edmygedd. Nid ei thad oedd yr unig un oedd wedi edmygu y