Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llygaid hyny. O herwydd gwynder ei hwyneb, ymddangosai llygaid Elin i'w thad yn dduach, disgleiriacb, a. phrydfertha'ch nag rioed. Ond yr oedd Elin, ei anwyl Elin, yr hon a olygai efe yn gynllun o berffeithrwydd, heb arni na brycheuyn na chrychni, fel y goleuni ei hun, yr oedd Elin wedi pechu. A chwareu teg i'w thad, ei phechod, ac nid y gwarth—er y teimlai efe hwnw yn dost—oedd fel cancr yn ysu ei gaIon, oblegid yr oedd Mr. Davies yn ŵr manwl, crefyddol, a duwiol yn ei ffordd ei hun. Agorodd Elin ei hamrantau, fel y dywedwyd, ac edrychodd yn ymbilgar, er yn dawel, yn llygaid ei thad. Wedi munyd o ddistawrwydd, ebe hi yn floesg — " Nhad, newch chi ddim siarad â fi?" Ni atebodd Mr. Davies air, ond dangosai gweithiadau ei wyneb a'i wddf mai efe oedd y dyoddefydd penaf.

"Nhad," ychwanegai Elin," yr ydw i wedi gofyn filoedd o weithiau i Iesu Grist fadde i mi, ydach chi'n meddwl y gneiff o, nhad?"

Edrychodd Mr. Davies ar Enoc, a gafaelodd yn dynach yn mhost y gwely, ond ni thorodd ei lŵ. Dywedodd Elin eil— waith—

"Bydase mam yn fyw—a mae hi'n fyw, mi gweles hi neithiwr —a mae hi wedi madde imi. Newch chi fadde i mi, nhad bach? Yr ydw i wedi bod yn eneth ddrwg, ddrwg, ddrwg; ond newch chi fadde i mi, nhad bach ?"'

Gollyngodd Mr, Davies ei afael yn mhost y gwely, gwegiodd fel meddwyn, aeth gam yn mlaen, gwyrodd, a chusanodd ei ferch unwaith ac eilwaith, a chiliodd yn ol i'w hen sefyllfa heb dynu ei lygaid oddiar ei ferch, ond ni ddywedodd efe air, Gwenodd Elin yn hapus, ac yna trodd ei llygaid at Enoc. Megys yn cael ei chyfarwyddo gan reddf, deallodd un o'r nurses, yr hon oedd fam, ei dymuniad, a gosododd wyneb y plentyn wrth wefusau oer ei fam. Ni wnaeth Enoc ond rhwchian yn gysgadlyd pan gusenid ef am y tro olaf gan ei fam. Wedi gwneud hyn ymddangosai Elin fel pe buasai wedi darfod efo phawb a phobpeth, ac edrychai i fynu yn ddidor. Ni thynodd Mr. Davies ei olwg oddiarni, ac hyd yn nod pun ddaeth y meddyg i mewn nid ymddangosai ei fod yn ymwyb— odol o'i ddyfodiad, Deallodd y meddyg ar nnwaith fod Elin, druan, ar ymadael, ac ni cheisiodd ganddi gymeryd y meddyglyn.