Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r rheolau dysgyblaethol. Wedi hyn, prysurodd y famaeth i dŷ y gweinidog Wesleaidd gyda'r un apêl. Yr oedd John Wesley Thomas ynteu yn berffaith hysbys o'r holl amgylchiadau, ac yn garedig iawn, ac heb wneud dim "bones" yn nghylch y peth, aeth ar unwaith gyda Mrs. Amos a gweinyddodd y sacrament ar y plentyn, gan ei alw ar enw ei dad—yn ol cyfarwyddyd Mrs. Amos— sef Enoc Huws, Teimlai y famaeth yn rhwymedig iawn i Mr. Thomas am y gymwynas hon, ac i ddangos ei theimlad cynygiodd iddo wydriad o chwisgi fel cydnabyddiaeth fechan am ei drafferth. Gwrthododd Mr. Thomas y moesgarwch gan roddi gair o gynghor iddi—sef anogaeth iddi ddilyn esiampl y baban Enoc—gadael llonydd i'r botel. Diolchodd Mrs. Amos yn gynhes i'r gweinidog am ei garedigrwydd ac am ei gynghor, a phrotestiodd "os byth y bydd angen arna i fyn'd i'r capel, i'ch capel chi, Mr. Thomas, y dof fi, ond am y gydwff arall ene, ŵn i ddim sut y mae neb yn myn'd ar i gyfyl o," Aeth Mr. Thomas ymaith dan chwerthin, ac ni fu "angen" ar Mrs. Amos byth i fyn'd i gapel nac eglwys nes y cariwyd hi i'r lle olaf gan bedwar o ddynion.

Er dirfawr siomedigaeth i Mrs. Amos, darfu i'r bedydd, neu rywbeth arall, ddwyn oddi amgylch gyfnewidiad rhyfedd yn ystad iechyd Enoc. Pe buasai yn "fedydd esgob" ni allasai ei effeithiau fod yn fwy gwyrthiol. Dechreuodd Enoc yn uniongyrchol edrych o'i gwmpas yn ddigon hen ffasiwn, a phan osododd Mrs. Amos ffroen y beipen India Rubber yn ei safn, sugnodd mor aiddgar a hoew ag oen bach, a phe buasai ganddo gynffon, buasai yn ei hysgwyd, ond gwnaeth y diffyg i fyny drwy ysgwyd ei draed, a chodi ei ysgwyddau i ddangos ei ddirfawr foddhad. Yn ngwyneb yr amlygiadau digamsyniol hyn o fywyd yn Enoc yr oedd Mrs. Amos wedi moni drwyddi, a mynych y galwodd hi ef yn "hen chap drwg, twyllodrus." Ond gan mai byw a fynai yr "hen chap drwg," nid oedd mo'r Help.

Aeth amser heibio; ac o herwydd nad oedd Enoc yn gwneud. dim—dim, o leiaf, gwerth sôn am dano—ond sugno y botel lefrith, a Mrs. Amos, hithau, heb fod yn ddiystyr o gwbl o'r botel chwisgi, buan y diflanodd y "swm mawr o arian" a roddodd Mr. Davies i Mrs. Amos am gymeryd Enoc "allan o'i olwg." Ffaith ydyw, cyn bod Enoc yn llawn ddeuddeng mis oed, fod ei famaeth mewn dygn dlodi. Mewn canlyniad, hi a