Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

'DOES DIM YN LLWYDDO FEL LLWYDDIANT.

FEL yr oedd Mr. Bithel wedi rhagweled, trodd Enoc allan yn fachgen rhagorol — pigodd ei fusnes i fynu yn gyflymach nag y gwna bechgyn yn gyffredin. Ond mynych y dywedodd Mr. Bithel wrtho, yn ystod y blynyddoedd olaf y bu Enoc yn ei wasanaeth, ei fod yn ofni na wnai efe byth feistr, am ei fod yn rhy yswil, anwrol, a hygoelus. Yr oedd gormod o wir yn hyn, fel y ceir gweled eto. Nid oedd Enoc ei hun yn anymwybodol o hyn, a pharai lawer o boen iddo. Teimlai anhawsder i wrth ddweyd neb, ac o wyleidd-dra, ymddangosai, lawer pryd, fel yn cydsynio â'r hyn oedd mewn gwirionedd yn gwbl groes i'w feddwl. Cofiai bob amser, ac weithiau adgofid ef gan ereill, mai " bachgen y workhouse " ydoedd, a dichon fod a wnelai hyny gryn lawer a'i ledneisrwydd. Yr oedd efe, yn naturiol, o dymherau tyner, ac wrth iddo feddwl am ei ddechreuad, manylion yr hwn a adroddwyd iddo fwy nag unwaith. pan yn y tlotty, rhag iddo ymfalchio — mynych y gwlychodd efe ei obenydd â dagrau. Fel y cynyddai efe mewn gwybodaeth a diwylliant, mwyaf poenus iddo ef oedd cofio yr hyn a adroaddwyd wrtho, ac yn enwedig cofio nad oedd ei hanes yn ddieithr i'w gyfeillion. Yn y cwmni ac yn y capel, lawer pryd, y tybiai Enoc fod pobl yn meddwl am ei ddechreuad, tra mewn gwirionedd nad oedd dim pellach o'u meddyliau. Hoffid ef gan bawb, a gwerthfawrogid ei wasanaeth gan ei feistr. Pa fodd bynag, pan enillodd ei ryddid — wedi gwasanaethu ei chwe' mlynedd gyda Mr. Bithel, penderfynodd Enoc fyned ymaith i dref ddieithr, lle y gallai efe gadw ei hanes iddo ef ei hun. Ac felly bu; ac i dref enedigol Rhys Lewis & Wil Bryan yr arweiniwyd Enoc gan ragluniaeth.

Digwyddodd fod angen am gynorthwywr yn Siop y Groes. Ceisiodd Enoc am y lle a chafodd ef. Cedwid a pherchenogid Siop y Groes y pryd hyny gan wraig weddw, yr hon, er pan fu farw ei gŵr a fuasai yn hynod anffortunus yn ei chynorthwywyr. Cawsai mai cynorthwyo eu hunain, fel rheol, y byddai