Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enoc Huws yn haeddu llwyddo — yr oedd yn ddyn gonest, yr hyn sydd yr beth mawr i ddweud am dano, ac ni byddai byth yn taenu celwyddau mewn hysbysleni ar y paradwydydd, ac yn y newyddiaduron. Ond, fel y dywedwyd, yr oedd yn byw yn ei ymyl ddynion càn onested ag yntau, yn yr un fasnach ag yntau, yn methu talu eu ffordd. Nid oedd y dw'r wedi dechreu rhedeg at eu melinau hwy —yr oedd agos i gyd yn myned i droi olwyn fawr Siop y Groes, a gwnaent hwythau. druain, eu goreu i ddal s trochion oddiwrth yr olwyn fawr pan droai gyflymaf. Fel y cynyddai ei fasnach, cynyddai dylanwad Enoc yn y capel. Cyfranai yn haelionus. Nid oedd ynddo, fel yr awgrymwyd, lawer o elfenau dyn cyhoeddus, ond toc y gwnaed ef yn arolygwr yr Ysgol Sabbothol, ac ychydig a fu yn fwy llwyddianus nag ef i gael athrawon ar ddosbarthiadau. Yr oedd rhywbeth mor ddymunol yn ei wyneb fel na feiddiai neb ei wrthod. Credid fod Enoc Huws yn gyfoethog, a dyweder a fyner, y mae i gyfoeth lawer o fanteision. ac nid y lleiaf ydyw fod yn anhawddach i'w berchenog gyfarfod ag anufudd-dod. Byddai Pitar Jones, y crydd, yr arolygwr arall, er ei fod yn ailuocach dyn, ac yn un'o farn addfetach, yn methu'n glir yn fynych a chael athraw ar ddosbarth, ond nis oedd gan bobl nerf i wrthod Enoc Huws. Mynych y teimlodd Pitar i'r byw y gwahaniaeth yn ymddygiad pobl ato ef rhagor at ei gyd-arolygwr. Ond yr oedd Pitar yn annghofio y gwahaniaeth oedd yn ei sefyllfa fydol; ac hefyd yr ymwybyddiaeth oedd yn meddyliau pobl, sef, na wyddent pa mor fuan y byddai arnynt angen am gynorthwy Enoc Huws.

Gallesid meddwl nad oedd dim yn amgylchiadau Enoc Huws yn fyr i'w wneud yn ddyn dedwydd. Yr oedd wedi, ac yn ol pob golwg, yn llwyddo yn y byd—perchid ef gan ei gymydogion, a mawrheid ef yn y capel, ac os oedd iddo elynion a chenfigenwyr, nid oeddynt o'i wneuthuriad ef ei hun. Ond càn lleied a wyddom am ddirgel ddyn calon ein gilydd? Yr oedd syniad Enoc Huws am dano ei hun mor wylaidd, a'i duedd mor anuchelgeisiol, fel nad oedd swydd na pharch yn cyfranu ond ychydig, os dim, at ei ddedwyddwch. Dyn sengl oedd efe; ac yn y ffaith yna yn unig, yr oedd llu o ofidiau a phrofedigaethau na chyfaddefir gan hen lanciau ond yn unig wrth eu gilydd, pan fyddont yn adrodd eu profiad y naill i'r llall. Ond ni ddarfu i Enoc, hyd yn nod yn y wedd yna,