Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangosiad — ar fore Sul, er engraifft — a dynai allan o bob aelod o'r gynulleidfa "good morning, Capten Trefor" (dystaw.)

PENNOD V.

"SUS"

FEL y sylwyd yn barod, yr oedd Mrs. Trefor yn ddynes ddiniwed; ac yn eithaf naturiol a phriodol, hyhi o bawb a edmygai ei gŵr fwyaf. Ni byddai hi byth yn croesi y Capten; ac yr oedd yntau mewn canlyniad yn hynod o fwyn tuag ati. Credai Mrs. Trefor fod dedwyddwch haner yr hil ddynol yn dybynu ar ei gŵr, ac ni ddarfu iddo yntau erioed ei didwyllo, na'i blino mewn modd yn y byd gyda manylion ei amgylchiadau a'i amrywiol ofalon. Yn wir, yr oedd ar Mrs. Trefor arswyd i'r Capteu ddadguddio iddi gyfrinach a phwysigrwydd ei safle gymdeithasol, rhag y buasai hyny yn peri iddi ei edmygu yn ormodol a pheri iddi annghofio Duw. Gwyddai Mrs. Trefor fod y Capten yn wr digyffelyb, a bod bywoliaeth ardal o bobl yn dibynu ar ei air, a chredai hefyd fod yn y Capten ogoniant tu hwnt i hyny na wyddai hi ddim am dano, ac na fuasai yn llesol i'w henaid ei wybod am y rheswm a roddwyd uchod. Nid oedd ganddi hi, er engraifft, un drych feddwl am faint ei gyfoeth — ond yn unig y gallai hi dynu oddiarno yn ddiderfyn.

"Ac er maint y tynu oedd arno

Nad oedd ei holl eiddo ddim llai."

Digon gan Mrs. Trefor oedd fod enw y Capten yn dda yn mhob siop yn y dref. Yr hyn a barai nid ychydig o bryder i Mrs. Trefor ar hyd y blynyddoedd oedd ei hofn i amrywiol ofalon y Capten, a'i waith yn astudio geology mor galed, beri i'w synwyr, yn y man, ddyrysu, oblegid nid oedd y Capten, wedi'r cwbl, ond dyn. Yr unig ffordd, neu o leiaf, y ffordd fwyaf hwylus, tebygai Mrs. Trefor, y gallai hi fod yn wraig