Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Os gwnewch chi siarad fel rhyw ddyn arall, a pheidio colli'ch tempar," ebe Mrs. Trefor, gan sychu ei llygaid, ac ail afael yn ei gwnïadwaith.

"Wel, mi dreiaf," ebe'r Capten, ac erbyn hyn yr oedd efe wedi oeri digon i siarad yn lled fanwl a gramadegol. "Chwi wyddoch, Sarah, fy mod mewn cysylltiad a Gwaith Pwllygwynt er's llawer iawn o fynyddoedd. Y fi fu yn offeryn i gychwyn y Gwaith—y fi, gydag un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae'n rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael bywioliaeth oddiwrth y Gwaith, ac fod y Gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymydogaeth. Yn wir, wn i ddim beth a ddaethai o'r achos oni bai am Waith Pwllygwynt. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn ystod yr holl amser yn brin o gysuron bywyd nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu, yn y tymhor hwnw, wedi codi ein hunain yn ngolwg ein cymydogion, ac yn cael edrych arnom yn lled barchus. Mi wnewch gydnabod hyny, Sarah? 'Does dim eisieu i mi eich adgofio am ein sefyllfa cyn i mi ddod i'r cysylltiad yr wyf yn sôn am dano. Mi wyddoch pa fath dŷ oedd genym y pryd hwnw. Nid tŷ a stabal a coach-house oedd o, aie? 'Doedd genym yr un ceffyl a thrap, na gwas na morwyn. Nid yn y sêt oreu yn y capel yr oeddym yn eistedd y pryd hwnw, aie? Nid yr un un oeddwn inau yr adeg hơno ag ydw i heddyw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, William's Court, a Capten Trefor, Tynyrardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan yn eistedd ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod—yr oedd yn cael tipyn o flas ar foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor, ar yr Efengyl yn y sêt â'r glustog arni? Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chwi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor darfod yn Gapten Trefor! Mi wn fy mod wedi cadw y cwbl oddi wrthoch chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw ddim yn hwy. 'Does dim ond dinystr yn ein haros," a dechreuodd y Capten ysgafnhau ei gydwybod. Ond cyn gwneud hyny cymerodd ddogn cryf o'r Scotch Whiskey.