Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath o office, a'r hon oedd wedi ei llenwi yn bwrpasol â chistiau a phethau ereill fel nad oedd lle ynddi ond i un gadair. I'r ystafell hon yr elai Enoc ar ol swper, er mwyn cael bod ar ei ben ei hun, a chael llonydd. Os elai efe i'r parlwr deuai Marged i gadw cwmpeini iddo, ac mewn cadair esmwyth syrthiai i gysgu mewn dau funyd, a chwyrnai fel mochyn tew hyd adeg myn’d i'r gwely, ac os gwarafunai Enoc iddi wneud hyny, elai Marged allan o hwyl am dridiau. I arbed y trychineb hwn, ai Enoc i'r office yn gyson dan yr esgus fod ganddo "fusness" i'w wneud. "Busnes" oedd yr unig beth a gyfaddefai Marged nad oedd yn ei ddeall. Tra y byddai Enoc yn yr office byddai Marged wrth y tân yn y gegin yn chwyrnu fel engine am ddwy, ac weithiau dair awr, oblegid nid ai hi byth i'r gwely yn gyntaf am nas gallai "drystio" ei meistr i gloi'r drysau a rhoi'r gas allan. Mewn gwirionedd, yr oedd sefyllfa Enoc yn un druenus iawn, ac yr oedd arno arswyd i neb wybod gymaint yr oedd efo dan awdurdod Marged, ac herwydd hyny ychydig o gyfeillion a wahoddai efe i'w dŷ, gan nad pa mor dda a fuasai hyny ganddo.

Y noswaith y cyfeiriwyd ati yr oedd Enoc wedi myned i'r office ar ol cael ei swper. Yr oedd yn noswaith oer a niwliog, fel y dywedwyd. Buasai Enoc yn fwy prysur nag arferol y diwrnod hwnw, a theimlai yn hynod flinedig. Yr oedd efe yn rhy ddifater i fyned i'r llofft i ymolchi ac ymdrwsio; ac eisteddodd o flaen tân yn ei ddillad blodiog—nid i gyfrif y broffit fawr a wnaethai efe y diwrnod hwnw, ond i synfyfyrio ar ei sefyllfa unig a digysur. A phe gwelsai merched ieuainc y capel ef y noson hòno, a gwybod am ei feddyliau pruddglwyfus, mae yn ddiamheu y buasai ambell un yn barod i gymeryd trugaredd arno. Nid wyf yn sicr na fuasai calon hyd yn nod Miss Trefor yn meddalhau ychydig. Yr oedd ei gynorthwywyr yn y siop yn lletya allan am na fynasai Enoc iddynt wybod gymaint yr oedd efe dan lywodraeth Marged. Mwynhaent hwy eu hunain yma ac acw, ond Enoc, druan, fel y dywedwyd, a eisteddodd o flaen tân—tynodd ei esgidiau a gwisgodd ei slipars. Yr oedd efe yn rhy ddiysbryd i ddarllen, er fod y Liverpool Mercury, yn ei boced. Pe dygasai efe y Mercury yn ei law neu dan ei gesail o'r gegin i'r office, buasai Marged yn deall ei fod yn bwriadu darllen, ac yn y man yn ei ddilyn i holi beth oedd y newydd. Yr oedd hi