Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydach chi, Capten," ebe Mr. Denman, er ei fod yn meddwl er's meityn am y derbyniad a gaffai gan Mrs. Denman pan elai adref.

"Na," ebe'r Capten, " 'does dim eisiau i ddyn fod yn un garw i ddarganfod y gwirionedd yna, ac yr wyf yn mawr hyderu y bydd Mr. Huws ei hun yn brofiadol o'r peth cyn nemawr o fisoedd. ('Mae o am hyrio y briodas, ond waeth gen' i pa mor fuan,' ebe Enoc ynddo'i hun). Ond y mae yn bryd i mi ddyfod at y pwnc," ychwanegai y Capten.

"Ydi," ebe Enoc, " ac yr ydw i'n berffaith barod, a gore po gyntaf y down ni i understanding efo'n gilydd."

"Wel," ebe'r Capten, "yr wyf wedi ymdroi yn lled hir cyn dyfod at y pwnc ("Gynddeiriog,' ebe Enoc yn ei frest), ond buaswn wedi dyfod ato yn gynt onibae—wel, 'does dim eisiau sôn am hyny eto. Ond dyma ydyw y pwnc, Mr. Huws (daliai Enoc ei anadl). Chwi a wyddoch—nid oes neb a ŵyr yn well —ac eithrio Mr. Denman, a fy hunan, hwyrach—fod Gwaith Pwllygwynt wedi, ac yn bod, yn brif gynhaliaeth y gymydogaeth y gwelodd rhagluniaeth yn dda i'ch llinynau chwi a minau ddisgyn ynddi. Ac efallai "—ac yn y fan hon yr ymollyngodd y Capten i lefaru.

PENNOD XII

ENOC HUWS YN DECHREU AMGYFFRED Y SEFYLLFA.

YMOLLYNGODD y Capten i lefaru, fel y dywedwyd, ac ebe fe—

"Efallai, Mr. Huws, a chymeryd pobpeth i ystyriaeth, y gellwch chwi a minau ddweud fod ein llinynau wedi disgyn mewn lleoedd tra hyfryd, a dichon y gall Mr. Denman fyn'd lawn can belled a ni yn y ffordd yna. Er fod genyf lawer o destynau diolch, hwyrach fwy na'r cyffredin o ddynion, nid y lleiaf, Mr. Huws, ydyw fy mod, fel offeryn gwael yn llaw Rhagluniaeth, wedi cael y fraint o fod mewn cysylltiad, a'r cysylltiad hwnw heb fod yn un dirmygus, â gwaith a fu yn. foddion—os nad yn uniongyrchol, yn sicr, yn anuniongyrchol