Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig gynorthwy, agor Gwaith newydd—nid ar yr un scale, mae'n wir, a Pwllygwynt—ond Gwaith, gydag ychydig ganoedd o bunau o gôst, a ddeuai i dalu am dano ei hun mewn byr amser, ac, yn y man, a roddai foddion cynhaliaeth i rai ugeiniau o weithwyr, a gwell na'r cwbl, yn fy ngolwg i, Gwaith na fyddai gan Saeson na phobl Llunden ddim i ddweyd wrtho, a lle gallwn gael fy ffordd fy hun o'i ddwyn yn mlaen; ac fe wyr Mr. Denman pe cawswn i fy ffordd fy hun gyda Phwllygwynt yn mha le y buasem erbyn hyn. Yn awr, Mr. Huws, fe ddarfu i Mr. Denman a minau benderfynu rhoddi y cynegiad cyntaf i chwi oddiar yr egwyddor nes 'penelin nag arddwrn!' Os gallwn wneud lles i rywrai yr oeddem yn ystyried y dylem roddi y cynyg cyntaf i'n pobl ni ein hunain. Beth meddwch chwi, Mr. Huws? A ydych yn barod—oblegid mi wn fod y moddion genych—a ydych yn barod er eich mwyn eich hun—er mwyn y gymydogaeth—ac yn benaf oll er mwyn achos crefydd—i ymuno â Mr. Denman a minau i gymeryd shares yn y Gwaith newydd? Yr ydych—os na ddarfu i mi eich camddeall—eisoes wedi dadgan eich parodrwydd, os gallwn lwyddo i ddangos y byddai hyny er eich lles personol a lles y gymydogaeth yn gyffredinol. Ond peidiwch ag addaw yn rhy fyrbwell—cymerwch noswaith i gysgu dros y mater, oblegid ni ddymunwn am ddim ar a welais arfer dylanwad anmbriodol arnoch—yn wir, byddai yn well genyf i chwi wrthod, os na fedrwch ymuno â ni yn yr anturiaeth hon o wirfodd eich calon."

Tra yr oedd y Capten yn llefaru y rhan olaf o'i araith yr oedd Enoc Huws mewn tipyn o benbleth yn ceisio galw i'w gôf bob gair a ddywedasai efe ei hun yn ystod yr ymddyddan, ac a oedd efe wedi bradychu ei hun, a rhoddi ar ddeall mai am rywbeth arall y meddyliai efe tra yr oedd y Capten yn sôn am waith mwn. Teimlai Enoc yn sicr ei fod wedi dweud rhywbeth am fod yn "barod i entro i arrangement â chynygion y Capten" cyn gwybod pa beth oeddynt, a phan ddeallodd ei fod ef a'r Capten un o bobtu'r gwrych, teimlai anhawsder mawr i esbonio ei hun a dyfod allan o'r dyryswch. Yr oedd anrhaethol wahaniaetha, meddyliai Enoc, rhwng cymeryd shares mewn gwaith mwn, a chymeryd merch y Capten yn wraig. A theimlai yn enbyd o ddig wrtho ei hun am na ddeallasai rediad ysgwrs y Capten yn gynt. Arbedasai hyny iddo haner llesmeirio,