Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedir, ac o dan bob amgylchiadau. Ac mae'n rhyfedd meddwl, Sarah, fod y syniad oedd genych am danaf—syniad a gymerodd haner oes, fel y dywedais, i'w ffurfio a'i gadarnhau, wedi ei ddymchwelyd mewn un awr—yn wir, mewn haner awr, os nad llai na hyny. Yr wyf yn dueddol, mi wn—mae o ynof erioed er yn blentyn—i ddibrisio fy hun, ac i osod allan fy meiau—neu, os myuwch, fy mhechodau—mewn gwedd, a dweyd y lleiaf, dipyn yn eithafol. Mewn geiriau eraill, y mae mwy o'r publican ynof nag o'r Pharisead. Ac eto, Sarah, yr wyf yn credu y gwnewch admitio, a hyny yn rhwydd, nad. ydyw cyfaddefiad o feiau yn beth dyeithr i dduwiolion. Yn wir, yr wyf yn meddwl y gellir dweyd—a chadw fy hun allan o'r cwestiwn yn y wedd yma—y gellir dweyd fod cyfaddefiad bai yn arwydd ac yn nôd o dduwioldeb. Heb i mi nodi mwy nag un—mi gymeraf dipyn ychwaneg o fara, Sarah—thank you —heb i mi nodi mwy nag un engraifft Ysgrythyrol—er fod amryw yn dyfod i fy meddwl—pe meddyliem am Dafydd, pêr— ganiedydd Israel. Pa syniad a ffurfiai ambell ddyn annuwiol—neu, fel y dywedir weithiau—ddyn heb feddu y ddirnadaeth ysbrydol—am ŵr fel Dafydd pan y darllenir rhai—rhai, meddaf, o'i Salmau? Fe gredai mai y dyhiryn gwaethaf yn y byd ydoedd, pryd, mewn gwirinuedd, mai gŵr wrth fodd calon Duw ydoedd Dafydd. Fel y dywedais neithiwr, Sarah, wrth edrych yn ol ar fy mywyd, tra, ar y cyfan, yn ceisio cadw cydwybod ddirwystr, mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydwyf wedi bod yn berffaith. Ac eto, wrth ystyried nifer crochanau y byd drwg presenol, yr wyf, o angenrbeidrwydd—nid o ddewisiad— wedi troi yn eu mysg, mae yn syndod can lleied o'u parddu sydd wedi glynu ynof. Wyddoch chwi, Sarah, y nesaf peth i ddim am demtasiynau y byd, y cnawd, a'r diafol. Yr ydych chwi yma megis mewn private life yn gallu myfyrio ar y pethau, ac heb lychwino dim ar eich ysbryd, tra yr wyf fi yn gorfod troi yn mhlth pob math o ddynion, ac, fel yr Apostol, yn gorfod gwneud fy hun yn bobpeth i bawb, nes y byddaf, weithiau, yn teimlo, fel yr oeddwn neithiwr, wrth gymharu fy mywyd â'ch bywyd chwi, yn edrych arnaf fy hun fel rhagrithiwr twyllodrus, er nad wyf yn un felly. Ond pwy ŵyr na chedwir fînau! Wnaed mohonom i gyd i fyw bywyd private, a mi fyddaf yn meddwl fod yn yr Efengyl ddarpariaeth ar gyfer pob dosbarth o honom, a bod ei Hawdwr yn cymeryd i ystyriaeth ein gwabanol amgylchiadau."