Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein dau yn ei cherdded. Ond, fel y mae yn digwydd yn rhy fynych, yn y fuchedd hon, rhaid i ni adael y pethau gwir bwysig—hyny ydyw pethau yr ysbryd, a dyfod i lawr i ystyried ein hamgylchiadau bydol. Mae gorthrwm y presenol, fel y dywed y Sais, yn beth digon anhyfryd, ond nid allwn ymysgwyd oddiwrtho. Y ffaith ydyw, Sarah, fel y dywedais neithiwr, fe fydd diwedd buan ar Bwllygwynt; ac felly, o angenrheidrwydd, ar fy incwm inau. Mi ddywedais wrth Kitty—am beidio galw ar Susi i godi er mwyn i mi gael hamdden i siarad gair â chwi, Sarah. Nid ydyw pobl ifainc dibrofiad bob amser yn gall, ac er nad oes fawr berygl iddi wneud, yr wyf eisieu i chwi, Sarah, roi Susi ar ei siars i beidio son gair am ddim a ddywedais neithiwr, a'i chyfarwyddo, yn eich ffordd eich hun, yn yr eglurhad yr wyf wedi ei roi i chwi, Sarah, hyny ydyw, am yr amgylchiadau a fy ymddygiad inau neithiwr. Yr adeg yma ddoe yr oedd y dyfodol yn ymddangos i mi yn dywyllwch perffaith; ond erbyn boreu heddyw yr wyf yn credu, Sarah, fy mod yn gweled cwmwl megis cledr llaw gŵr, er nad ydyw y gymhariaeth, hwyrach, yn briodol, ond yr ydych yn deall fy meddwl, Sarah. Mae y posibilrwydd i mi allu cadw cartref cysurus yn dibynu yn hollol ar a allaf fi ddechreu gwaith mine newydd, ac mae'r posibilrwydd hwnw yn dibynu i raddau mawr ar Mr. Enoc Huws, Siop y Groes. Os ymuna Mr. Huws â ni, ac yr wyf yn mawr gredu y gwna, mae genyf obaith ara fywoliaeth gysurus eto; ond os gwrthoda Mr. Huws, nid oes genyf, ar hyn o bryd, neb arall mewn golwg. Mae genyf bob lle i gredu fod gan Mr. Huws lawer o arian, ac y mae cael un o'i fath ef i gychwyn gwaith yn well na chael cant o dlodion. Mewn gair, mae fy ngobaith am gael dyfod allan o fy nyrysywch presenol yn dibynu yn hollol ar Mr. Huws. Os try ef ei gefn arnaf, Rhagluniaeth fawr y Nef a ŵyr beth ddaw honom. Yn awr, Sarah, mi ddaru mi grybwyll wrthoch neithiwr, mewn byr eiriau, am beth arall, Mae'r cwestiwn yn delicate, mi wn, ond, fel y gwyddoch, mae Susi yn dechreu myn'd i oed, a fe ddylasai yr eneth fod wedi priodi cyn hyn, a gwneud cartref iddi hi ei hun, oblegid 'does neb ŵyr beth all ddigwydd i mi, yn enwedig gan nad ydyw fy rhagolygon—er nad ydynt yn ddiobaith—mor ddisglaer ag y buont. "Wel, yr wyf yn meddwl, Sarah, fy mod yn adnabod dynion yn weddol—hyny ydyw 'does dim eisiau i neb eu sillebu