Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedodd Archesgob Denmarc wrthyf: "Y drwg yw y tybir bod Sweden o blaid yr Almaen, fel y tybir bod Denmarc o blaid Ffrainc." Awgrymais iddo pe gallasai yntau gefnogi'r apêl, a'i chodi felly yn wastad rhag drwg-dybiaeth, y gallasai'r Eglwys yn Lloegr drefnu cynhadledd gyd-eglwysig i drafod mater heddwch Ewrop. Wedi iddo ystyried, dywed- odd pe byddai i Archesgob Caergaint ei wahodd i gynhad- ledd o'r fath y buasai yn rhoddi heibio ymweliad a fwriadodd â'r America, a dod yn unswydd i Loegr. Ni allwn gefnu ar wledydd Norwy, Sweden a Denmarc heb werthfawrogi y croeso syml a siriol a gefais ym mhob man i'm cenhadaeth hedd, a rhyfeddu wrth eu diwylliant uchel, eu bywyd cysurus, eu trefydd heirdd, eu gwareiddiad rhydd a naturiol, ac at symledd ac agosatrwydd gwŷr mawr eu heglwysi. Cofiaf hefyd gartrefi annwyl ar lannau'r Fjords ac yn nhrefydd heirdd Stockholm a Copenhagen, a bechgyn hawddgar yr ysgolion gwerin, a chredaf na ddiffoddir golau Crist ynddynt gan drais a drygfyd y rhyfel.

YR ALMAEN

Wedi cyrraedd Berlin, ymwelais â'r Dr. Siegmund Schultze, cyn-Gaplan y Kaiser, a Ficer Potsdam gynt, a drodd, fel Dick Sheppard, yn heddychwr, ac a gadwodd felly yn ystod y rhyfel. Trwyddo ef cyfarfûm ddau ŵr amlwg o Eglwys yr Almaen, sef y Dr. Schreiber a'r Dr. Julius Richter, llywydd y Coleg Cenhadol. Disgrifiasant i mi gyflwr yr Almaen ar y pryd-y prinder bwyd amlwg, y cwymp yng ngwerth arian-papur y wlad i'r filfed ran o'u gwerth ymddangosiadol; meddiant y Ruhr gan filwyr duon y Ffrancwyr; peryglon chwyldroad Bolsiefaidd a goresgyniad gan fyddin Rwsia; esgymundod byd ac Eglwys yr Almaen gan fyd ac Eglwys Prydain. Bûm am rai oriau yn nhŷ mawr cysurus y Dr. Schreiber, ac mewn cynhadledd grefyddol o wŷr blaenllaw a diwylliedig; ond deallais wedyn nad oedd ganddo ond dwy ystafell o'r holl dŷ, am fod yn rhaid iddo osod pob ystafell arall, er mwyn cael dau ben y llinyn ynghyd. Yr unig luniaeth a gawsom, ar noswaith oer yn y gaeaf, oedd cwpanaid o de, heb na siwgr na llaeth, a darn bach'o fara sych. Ar y ffordd yno telais yn y tram 10,000 marks (500p.) am fy nghludo o'r ddinas i'r tŷ. Mewn gair, yr oedd holl eiddo'r dosbarth canol cysurus wedi mynd yn ddi-