werth. Bara a margarin ydoedd lluniaeth pennaf y werin. Yr oedd glo, golau trydan, a nwy, yn brin iawn; yn y Ruhr cynyddodd darfodedigaeth hyd 24 yn y cant. Gofynnais i'r ddau weinidog osod ar bapur y ffeithiau a adroddasant i mi, ac euthum ar fy union i Lundain gyda'r hanes. Gwelais hefyd yn Berlin Herr Simon, mab y Dr. Simon, y cyn-Weinidog Tramor, a oedd yn ysgrifennydd i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn yr Almaen. Disgrifiodd Herr Simon y gobaith Mesianaidd a gododd ymhlith ieuenctid yr Almaen yn amser y Cadoediad am Almaen newydd ac Ewrop newydd. Yr oeddynt wedi darfod â'r filitariaeth a orfodwyd arnynt, a phropaganda celwyddog y rhyfel. Ymunasant wrth y lluoedd ag Undeb y Cynghrair. Ond pan welsant fradychu'r telerau heddwch a 14 Pwynt yr Arlywydd Wilson, a'u diystyru am bedair blynedd bellach, yn eu newyn a'u diraddiad, a phan glywsant ddim ond un cwestiwn gan y buddugoliaethwr, sef, "Faint fedrant ei dalu; gwnawn iddynt dalu," chwalwyd eu gobeithion. Felly digalonasant ac oerodd yr edifeirwch wrth iddynt glywed edliw'r hen filitarwyr, na ddylasent erioed gredu gair y Sais, ond dal i ymladd yn hytrach nag ymddiried ynddo a diarfogi.
Wedi cyrraedd Llundain euthum yn ddi-oed at Arglwydd Parmoor, tad Syr Stafford Cripps, gŵr eglwysig a Thori gynt, a ddaeth yn heddychwr ac wedyn yn Llywydd y Cyfrin Gyngor a chynrychiolwyr y Llywodraeth yn 1924 yn Genefa. Aeth â mi i Bwyllgor Cynghrair y Byd dros Gyfeillgarwch drwy'r Eglwysi, a gwahoddwyd fi i ddweud hanes fy nghenhadaeth. Wedi i mi ei adrodd, trodd Arglwydd Parmoor at y cadeirydd, Esgob Oxford: "Wel, dyna ni fel Cynghrair yr Eglwysi yn wynebu'r fath ing a cham yn Ewrop heb na dweud na gwneud dim yn ei gylch, ac fe fydd hanes yn barnu ein distawrwydd. Os nad yw'r pwyllgor am fentro gwneuthur tystiolaeth bendant heddiw, yr wyf yn ymddi- swyddo." Cydwelodd yr Esgob â'i brotest, ac wedi trafodaeth penderfynwyd anfon dirprwyaeth bwysig at y Prif Weinidog a galw ynghyd aelodau'r Cynghrair Cyffredinol i gynhadledd yn y Swistir yn fuan.
Cyhoeddwyd wedyn apêl y Cynghrair at eglwysi'r byd, ond ni chlywais ei fod wedi cael fawr o sylw yn Eglwys Loegr nac yng Nghymru. Anfonais innau gylch-lythyr, yn cynnwys yr hanes uchod am gyflwr yr Almaen a pheryglon