Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tro ar fyd. Heb betruso dim na meddwl nac am ei ddyogelwch personol ei hun, na lles y Blaid Ryddfrydol, nac hyd yn nod fuddianau Prydain ei hun yn y Rhyfel, ymdaflodd gyda'i holl frwdfrydedd arferol i'r gwaith o wrthwynebu llanw mawr a chryf teimlad y werin o blaid rhyfel. Ceisiai yn arbenig ddeffroi y gydwybod Ymneillduol. Pe bae'r adeg ychydig yn fwy ffafriol, pe na bae Prydain eisoes wedi dechreu ymladd, pe na bae cynifer o'i milwyr wedi colli eu bywydau yn y rhyfel, o bosibl y cawsai well gwrandawiad, ac y llwyddasai i grynhoi o'i gwmpas gwmni of ddewrion egwyddorol tebyg iddo yntau. Ond fel y dygwyddai yr oedd llawer o'r Ymneillduwyr blaenaf eisoes wedi ymrwymo i'r blaid a fynai gario'r Rhyfel allan yn fuddugoliaethus i'r terfyn-cwrs oedd i gostio yn ddrud i Ymneillduaeth Lloegr a Chymru cyn hir.

Nid oedd Cymru ei hun wedi dianc rhag haint ysbryd rhyfel. Syrthiodd y pla yn drwm iawn ar etholaeth Lloyd George ei hun, Bwrdeisdrefi Arfon. Pleidid y rhyfel yn gryf gan nifer o aelodau mwyaf blaenllaw Pwyllgor Etholiadol Lloyd George. Gwelir felly fod pob peth, lles y blaid, esiampl ei arweinwyr, cysylltiadau politicaidd, ystyriaethau cyfeillgarwch, hunan les, un ac oll yn ei gymell i fod yn ddystaw os na fedrai gefnogi y Rhyfel.

Eithr nid ymgyngorodd efe a chig a gwaed. Y pryd hwnw o leiaf yr oedd dylanwad dysgeidiaeth y capel, a phroffes ei ffydd yn rhy gryf i ganiatau iddo wadu egwyddorion ei oes. Felly, heb eistedd i lawr a bwrw'r draul, heb gyfrif o hono y canlyniadau posibl iddo ef