Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun, o bosibl o dan gymelliad ei ysbryd ymladdgar naturiol ef ei hun, ymdaflodd a'i holl yni, a'i holl nerth, a'i holl enaid, i'r frwydr o blaid heddwch. Ymgymerodd a rhyfelgyrch mawr i bregethu heddwch o'r naill gwr o'r deyrnas i'r llall, gan ddechreu yn Jerusalem Ty'r Cyffredin, lle y traddododd araeth rymus yn mhen wythnos wedi agor Senedd-dymor 1899-1900. Aeth o'r Senedd i'r wlad, gan gario fflamdorch rhyfel o blaid heddwch. Daeth yn y man yn nod pob saeth wenwynig, yn ganolbwynt pob ymosodiad. Ond trwy'r cwbl parhaodd i deithio llwybr cul ac union yr egwyddorion a broffesasai ar hyd ei oes. Apeliai yn ofer at werin y deyrnas, gan eu sicrhau y golygai'r rhyfel ohirio am flynyddoedd y Blwydd-dal i Hen Bobl oedd Joseph Chamberlain wedi addaw iddynt. Ebe fe, yn ei ddull desgrifiadol a tharawiadol ei hun:

"Nid oes ffrwydrbelen lydeit yn ffrwydro ar fryniau Affrica nad yw yn chwythu ymaith flwydd-dal rhyw hen bererin yn y wlad hon."

Ac ni chafwyd Blwydd-daliadau am ddeng mlynedd. Wrth y Cymry dywedai:

"Gohiria y rhyfel hwn pob gobaith am gael Dadgysylltiad am chwe mlynedd."

Mae un deg a chwech o flynyddoedd wedi pasio oddi ar pan lefarodd y broffwydoliaeth, ond megys a chroen ei ddanedd y diangodd Mesur Dadgysylltiad eleni. Ymosododd Lloyd George yn ffyrnig ar y landlordiaid a'r cyfalafwyr. Ebe fe: