Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daear ni ac arnynt, efallai, fodau ymwybodol yn byw, yn pechu ac yn marw—mewn gair, dynion. Mwy na hyn, nid yw'r gyfundrefn yma o sêr ond un o filiynau o gyfundrefnau cyffelyb sydd ynghrog yma ac acw yn y gwagle diderfyn.

Eto, yn ôl gwyddoniaeth ddiweddar, yn lle bod y ddaear wedi ei chreu 6,000 o flynyddoedd yn ôl, fe'i ganwyd hi allan o'r haul eirias oddeutu dwy fil o filiynau o flynyddoedd yn ôl, a hynny, fel yr eglurwyd yn y drydedd bennod, trwy ymweliad damweiniol seren fawr arall—seren a dynnodd dameidiau allan o'r haul, drwy rym disgyrchiant, a'r rhain wedyn, yn eu tro yn oeri a chaledu, gan ffurfio'r naw planed yng Nghysawd yr Haul.

Felly, ar ddydd ei geni, yr oedd y ddaear yn eiriasboeth, ac nid cyn pen miliynau o flynyddoedd yr oedd hi wedi oeri digon i grystyn caled y creigiau ffurfio ar ei hwyneb. Hyd yn oed yn awr, fe bery llawer o'r gwres gwreiddiol hwn yng nghrombil y ddaear, fel y dangosir gan fwg a tharth y llosgfynyddoedd.

Parhau i oeri a wna'r ddaear yn awr, ac oherwydd hynny crebachu a chilio a wna'r croen tenau ar ei hwyneb. A dyna'n hollol yw'r daeargrynfâu sydd mor ddifrifol eu canlyniadau. Nid ymyriad y Brenin Mawr mohonynt.

Wedi i'r ddaear oeri digon, ymddangosodd arni hadau cyntaf ac isaf bywyd, ac o'r rhai hyn, trwy rinwedd egwyddor fawr Datblygiad—a ddarganfuwyd gan Wallace a Darwin—fe gododd, yn nhreigliad yr oesau, amrywiol rywogaethau'r llysiau ac anifeiliaid sydd yn harddu wyneb ein daear, ac yn eu plith dyn.