Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y naill a'r llall o'r pleidiau'n mentro y tu allan i'w tiriogaeth briodol a chyfreithlon eu hunain. Ceisiodd y gwyddonwyr osod y ddeddf i lawr i'r diwinyddion, ac fe ymosododd y diwinyddion yn fwy ffyrnig fyth ar y gwyddonwyr oherwydd eu syniadau "rhyfygus ac annuwiol." Dylem ddiolch bod y cyfnod alaethus hwn wedi pasio, ni obeithiwn, am byth.

Ac yma, rhwng cromfachau megis, dylem wahaniaethu'n ofalus rhwng diwinyddiaeth a chrefydd ac yn y cysylltiad hwn anodd gwella ar yr hyn a ddywed yr Athro Julian Huxley:

Fe all gwyddoniaeth ddarostwng cyfundrefnau neilltuol o

ddiwinyddiaeth. Fe all ddymchwel hyd yn oed fath arbennig o grefydd os myn y grefydd honno wadu dilysrwydd gwybodaeth wyddonol. Ond ni all ddileu crefydd am na all ladd yr ysbryd crefyddol, oblegid y mae'r ysbryd crefyddol yn gymaint rhan o'r natur ddynol ag yw'r ysbryd gwyddonol.

Nid wyf yn sicr nad oes reswm da dros ddweud bod yr ysbryd crefyddol yn rhan fwy hanfodol o'r natur ddynol nag yw'r ysbryd gwyddonol.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi rhoi ond braslun byr, megis, o'r modd yr edrychir ar y cread drwy lygad gwyddoniaeth. Bwriadwn yn awr edrych i mewn i'r mater ychydig yn fwy manwl gan gymryd fel testun frawddeg a geir yn un o erthyglau'r Athro J. Arthur Thomson. Dywed y gwyddonydd hwn:

Fe ddatguddia gwyddoniaeth i ni fydysawd sydd yn gwneuthur

argraff ddofn arnom—ei ehangder, ei natur gymhleth, ei drefnusrwydd a'r egwyddor o ddatblygiad sydd yn rhedeg trwyddo.