Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn awr ni a ddywedwn ychydig ar y cyntaf o'r agweddau hyn, sef mawredd ac ehangder y greadigaeth. Dyma'r hyn a ddysgir i ni gan seryddiaeth—pellterau anfesurol fawr ac oesau maith diderfyn bron. Ac mor iachusol i ysbryd dyn yw myfyrio ar y pethau hyn! Oblegid fe ddysg drwy hynny amgyffred i ryw fesur ei wir safle yn y cynllun mawr, lle y mae " mil o flynyddoedd . . . fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos."

Awn allan, gan hynny, ar noson glir, serennog, a chodwn ein golygon tua'r nen. Gwelwn ruban o oleuni gwan yn croesi'r ffurfafen fel gwregys—y Llwybr Llaethog—neu fel y'i gelwir gan y seryddwyr, y Sistem Alactig. Ac fel yr awgrymwyd eisoes, yr hyn yw y Llwybr Llaethog yw nifer enfawr—miloedd o filiynau—o heuliau, a'r rhan fwyaf ohonynt yn tra rhagori ar ein haul ni mewn gogoniant.

Di-fudd yw ceisio ffurfio syniad am fawredd y gyfundrefn hon yn nhermau milltiroedd. Y mae'r uned yn llawer rhy fach, ac oherwydd hynny defnyddia seryddwyr fel llathen-fesur yr hyn a elwir "blwyddyn oleuni," sef y pellter a dramwyir mewn blwyddyn gan y brys-negesydd goleuni, h.y., chwe miliwn o filiynau o filltiroedd.

Bernir bod ein cyfundrefn sêr ni oddeutu 500,000 o flynyddoedd-goleuni ar ei thraws; felly, wrth fwynhau prydferthwch y ffurfafen, nid ydym yn gweld y sêr fel y maent yn awr, ond fel yr oeddynt (a lle'r oeddynt) gannoedd, ie, filoedd o flynyddoedd yn ôl. A phan astudir y rhai pellaf ohonynt gyda help y telesgôp, canfyddir hwy trwy gyfrwng goleuni a gychwynnodd ar