Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydyn ac annisgwyliadwy yn yr wybren weithiau— rhagarwydd marwolaeth brenhinoedd a chwymp teyrnasoedd. Erbyn hyn y mae iddynt eu lle priodol yng Nghysawd yr Haul, brodyr i'n daear ni, cyrff bychain diniwed yn troi o amgylch yr haul mewn cylchoedd hirgrwn, ac yn ymweled â ni'n rheolaidd o bryd i'w gilydd.

A'r un modd edrychid ar ddiffyg ar yr haul fel prawf o lid dwyfol—Duw'n sorri ac yn cuddio'i wyneb. Ond erbyn hyn fe ŵyr pawb nad yw diffyg ar yr haul yn ddim amgen na gwaith y lleuad yn digwydd mynd rhyngom a'r haul ac yn taflu ei chysgod ar y ddaear. Gellir rhagddywedyd i'r funud pryd y digwydd hyn, hyd yn oed gan mlynedd ymlaen llaw.

Ac felly'n raddol, o gam i gam, fe ddaeth dyn i sylweddoli bod deddf a threfn a rheol yn teyrnasu, ac fe'n gorfodir ni i ymwrthod â'r hen syniad bod Duw byth a hefyd yn ymyrryd yng ngwaith Ei ddwylo. I lawer meddwl duwiolfrydig, y mae'r syniad hwn o deyrnasiad deddfau anochel a di-droi'n-ôl yn dra phoenus. Ond mentraf ddywedyd mai ennill, ac nid colled, yw hyn i wir grefydd. Cyfraniad mawr gwyddoniaeth i'r oes hon yw ei bod wedi'n rhyddhau ni o hualau ofergoeledd—y syniad o Dduw fel swyngyfareddwr mympwyol. Onid yw'n llawer gwell i ni gredu y rheolir y cread gan ddeddf a threfn, gan unoliaeth a phwrpas?

Yn olaf, gwelwn yn amlwg yn y greadigaeth egwyddor datblygiad a chynnydd ym mhob cwr ohoni. Fel y dwysâ'r nifwl mawreddog dan ddylanwad disgyrchiant, felly hefyd y cynydda cyflymder ei