Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o fodfedd. Eto, fe ŵyr pawb fod yn y gwaed dynol nifer mawr o fân ronynnau a elwir corpuscles a bod bywyd ac iechyd dyn yn dibynnu yn uniongyrchol ar eu nifer a'u cyflwr. Mesura'r corpuscles un rhan o 3,000 o fodfedd. Gwelir hwy yn rhwydd gyda'r microsgop. Y mae'n hysbys hefyd bod llawer o heintiau a chlefydau yn cael eu hachosi gan greaduriaid bychain a elwir bacilli. Astudir y rhain yn ofalus gan feddygon a gwyddonwyr. Y mae llawer ohonynt i'w gweled yn eglur gyda'r microsgop. Y mae eraill ohonynt bron y tu hwnt i allu eithaf yr offeryn. Er enghraifft, yn gymharol ddiweddar llwyddwyd i ddarganfod y bacillus tuberculosis. Hwn yw un o'r bodau byw lleiaf. Ni fesur ond un rhan o 30,000 o fodfedd. Mor fawr yr alanas a wneir gan greadur mor fach!

Gyda'r ultra-microscope—offeryn diweddar—gellir gweled (er nad yn eglur) gwrthrychau can gwaith llai fyth; diddorol yw sylwi mai bodau marw yw'r rhain. Ni all bywyd fod mewn gwrthrychau llai na rhyw faint arbennig.

Y mae profion sicr fod y bodau bychain hyn, byw neu farw, wedi eu hadeiladu o nifer fawr o ronynnau llawer iawn llai, sef o atomau y gwahanol elfennau. A dyna fydd ein testun yn awr:

Byd yr Atom

O'i gymharu ag atom, y mae'r bacillus lleiaf yn fyd mawr dyrys. Y mae ynddo gannoedd o filiynau o atomau. Eglurwyd eisoes mor fychan yw'r bacillus. Rhaid felly fod yr atomau sydd yn ei gyfansoddi yn