Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

"Pan edrychwyf ar y nefoedd."

DATBLYGIAD YM MYD Y SÊR

i. Genir Haul a'r Ddaear.

Ni allaf lai na chredu bod y cwestiynau hyn yn eu hawgrymu eu hunain o dro i dro i bob meddwl ystyriol:

1. A yw athrawiaeth datblygiad yn gweithredu ym myd marw mater fel y mae yn y byd byw, byd y llysiau ac anifeiliaid a dynion?

2. Os yw, a ellir dywedyd gydag unrhyw fath o sicrwydd sut y daeth y cyrff hyn—y sêr—i fod yn yr wybren? Beth oedd dechrau eu gyrfa a pha beth fydd eu diwedd?

3. Pa eglurhad sydd ar y ffaith nad yw gwres a thanbeidrwydd yr haul o'r braidd fymryn yn llai nag oedd filoedd o flynyddoedd yn ôl? Beth sydd yn cynnal ei wres? (Am atebiad, gwêl Pennod VII

4. Ai eithriad ym myd y sêr yw Cysawd yr Haul? Neu mewn geiriau eraill—a oes lle i gredu bod cyrff eraill yn bod yn yr wybren a bywyd arnynt rhywbeth yn debyg i'r hyn a geir ar y ddaear?

Cydnabyddaf nad yw cael atebion i'r cwestiynau hyn o fawr pwys ymarferol. Ac eto, y maent o ddiddordeb neilltuol. A chan fod darganfyddiadau pwysig wedi eu gwneuthur y blynyddoedd diwethaf hyn sydd yn taflu goleuni ar y problemau a nodwyd, nid anfuddiol,