Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

efallai, fydd rhoddi braslun o'r syniadau diweddaraf ar y pynciau hyn. Gwnawn hyn gyda phob gwyleidd-dra yn yr ymdeimlad o urddas a mawredd y testun, a hefyd o fychander a therfynau ein gwybodaeth.

Cymerwn i ddechrau gipolwg ar y broblem gyntaf. Yn y ffurfafen ar noson glir fe welir miloedd o gyrff tanllyd yn disgleirio—y sêr sefydlog. Ond nid yw'r nifer a welir â'r llygad noeth ond rhan fechan iawn ohonynt. Trwy gyfrwng y telesgop a'r ffilm chwyddir y nifer i filoedd o filiynau o sêr ar wahân. Yn ychwaneg canfyddir miloedd o glystyrau sêr a channoedd o filoedd o wrthrychau mawreddog a elwir nifylau. Gwyddom hefyd fod y seren nesaf atom—yr haul, yn ben teulu, yn arglwyddiaethu ar nifer o blant, y planedau a'r comedau sydd yn troi yn rheolaidd mewn cylchoedd o'i gwmpas.

A'r cwestiwn yw: A grëwyd yr holl gyrff hyn i gyd yr un foment, mwy neu lai fel y maent yn awr? Ni ellir credu hyn. Yr un modd ag y mae dynion yn cael eu geni, yn datblygu ac yn marw, felly hefyd y daw sêr i fod, y maent yn datblygu ac yn marw. Credaf yn sicr fod athrawiaeth datblygiad yn gweithredu ym myd y sêr, a cheisiaf yma ddweud y stori. Yn gyntaf, rhaid inni gynefino â'r syniad bod y greadigaeth fater yn hŷn o lawer nag y meddyliwyd hyd yn gymharol ddiweddar. Nid yw cannoedd o filoedd o flynyddoedd o unrhyw bwrpas inni yn y mater hwn. Rhaid meddwl mewn termau o filoedd o filiynau o flynyddoedd. 04 gymharu â hyn nid yw cyfnod trigias dyn ar y ddaear ond megis amrantiad. Ond sylwer, nid yw'r sêr i'w gweled yn newid o gwbl yn ystod oes fer dyn. Gan