Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr un modd ag y tynnwyd y ddaear ei hun allan o'r haul, fel y disgrifiwyd yn y bennod o'r blaen. Ac yn wir, yn y modd yma yr eglurir yn foddhaol eni'r amryw leuadau sydd yn troi o amgylch y planedau mawr lau a Sadwrn. Ond ni wna'r eglurhad hwn y tro gyda golwg ar eni'r lleuad. Y mae'r lleuad yn gorff eithriadol iawn. Yn un peth, mae ei dwyster (density) lawer uwch nag eiddo unrhyw leuad arall. Hefyd, y mae'r lleuad yn drymach o lawer o'i chymharu â'i mamblaned, y ddaear, na'r holl leuadau eraill o'u cymharu â'r planedau a roddodd fod iddynt. Er enghraifft, nid yw'r ddaear ond 8 i o weithiau yn drymach na'r lleuad; y mae'r planedau eraill filoedd o weithiau yn drymach na'u lleuadau hwy.

Rhaid chwilio gan hynny am eglurhad gwahanol ar greadigaeth y lleuad, ac yn ddiweddar y mae gwyddonwyr, ar ôl chwilio'n ddyfal, wedi cael gafael, efallai, ar y gwir. I mi, y mae'r hanes yn un o'r pethau hynotaf a mwyaf rhamantus mewn gwyddoniaeth.

Ganwyd y lleuad oherwydd cyd-ddigwydd diddorol dros ben, fel hyn:

Yr ydym eisoes wedi dweud bod y ddaear a'r lleuad ar un adeg yn ffurfio un belen, a bod honno yn troi ar ei hechel bob pedair awr. Pelen o hylif ydoedd yr adeg honno; nid oedd wedi oeri digon i'r sylweddau ynddi ymgaledu i ffurfio'r creigiau sydd yn awr fel crystyn ar ei hwyneb. A chan fod y belen hon yn troi mor gyflym ar ei hechel, yr oedd ymhell o fod yn berffaith grwn. Yr oedd ei thryfesur ar draws ei hechel rai cannoedd o filltiroedd yn hwy na'i thryfesur ar hyd ei hechel. Heblaw hynny, yr oedd y belen hylif yn ddiamau yn