Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dysgir oddi wrth yr arbrawf syml hwn, ac arbrofion cyffelyb, nifer o egwyddorion pwysig. Dyma bedwar ohonynt:

1. Yr hyn sydd yn cyfansoddi nodyn perseiniol yw nifer luosog o donnau yn cyrraedd ein clust yn fynych a rheolaidd.
2. Po fynychaf y tonnau, uchaf yw cywair y nodyn.
3. Ni ellir clywed sŵn fel sain gerddorol a pherseiniol oni bydd o leiaf bump ar hugain o donnau yn cyrraedd y glust yn rheolaidd bob eiliad.
4. Os bydd curiadau'r tonnau uwchlaw rhyw 5,000 mewn eiliad, yna gwich anhyfryd a glywir; ac os bydd hynny dros oddeutu 30,000, yna ni chlywir dim. Y mae'r nodyn yn rhy uchel ei gywair i'w ganfod gan y glust ddynol.

Cymerwn y pedair egwyddor uchod yn yr un drefn.

(1) Gallwn yn awr ateb cwestiwn a awgrymwyd yn flaenorol, sef: Beth yw'r gwahaniaeth hanfodol rhwng sŵn melodaidd tant telyn a thwrw anhyfryd trol ar heol garegog? Sylwn ar y tant ar ôl ei daro. Y mae'n ysgogi'n gyflym o un ochr i'r llall yn hollol reolaidd. Y mae'r tonnau a gynhyrchir ganddo yn yr awyr gan hynny yn cyrraedd y glust gyda'r un rheoleidd-dra. Clywir felly sain hyfryd. Ond am dwrw'r drol ar yr heol, nid oes na threfn na rheol o gwbl ynglŷn â'r tonnau sŵn a gynhyrchir ganddi hi, ac felly poenus yw'r effaith ar ein clust. Fel enghreifftiau ychwanegol o'r modd y mae rheoleidd-dra curiadau yn cynhyrchu