Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sain gerddorol, ni a nodwn rai sydd yn gorwedd ychydig y tu allan i gylch cyffredin astudiaeth y cerddor. Er hynny, y maent yn ddiddorol ac addysgiadol.

Diamau fod y darllenydd wedi sylwi na chlywir y gacynen neu'r gwybedyn yn suo ond pan fo'n ehedeg. Y foment y disgynno ar y ddeilen neu ar y ffenestr— diflanna'r sŵn. Y rheswm yw nad gwddf y creaduriaid bychain hyn yw ffynhonnell y sŵn (fel y tybia rhai, efallai) ond yn hytrach, symudiadau cyflym eu hadenydd. Curant eu hadenydd tua chant neu ddau o weithiau mewn eiliad, ac felly clywir nodyn mwy neu lai perseiniol. Nid yw ysgogiadau adenydd adar yn ddigon cyflym a mynych i'r gwahanol guriadau ymdoddi i'w gilydd a ffurfio sain. Yng nghuriadau adenydd y su-aderyn (humming-bird) yn unig y ceir y cyflymder angenrheidiol.

Eto, ceir llyfrau yn aml wedi eu rhwymo mewn lliain rhesog. Pan dynner blaen yr ewin yn gyflym ar draws clawr llyfr o'r fath, fe glywir nodyn sydd â'i gywair yn dibynnu ar gyflymder y bys. Eglurhad cyffelyb sydd i si gown sidan neu siffrwd llodrau cordyrôi. Clywir yr un peth gyda darn o galico os rhwygir ef. Yr hyn a ddigwydd yw bod y llinynnau sydd yn ei gyfansoddi yn cael eu torri yn rheolaidd y naill ar ôl y llall. Clywir mewn canlyniad sain, sydd â'i chywair yn dibynnu ar gyflymder y rhwygiad a lluosogrwydd y llinynnau.

Gyda golwg ar yr ail egwyddor uchod—"po fynychaf y tonnau, uchaf yw cywair y nodyn," sylwer ar y ffeithiau: Cynhyrchir y C canol ar y piano gan oddeutu 260 o guriadau mewn eiliad; y nodyn isaf yn y bas (A) gan