Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trown ein sylw am foment at bibelli'r organ. Dibynna'r nodyn a geir o bibell organ ar faint y bibell. Po fyrraf y bibell, uchaf fydd cywair ei sain—deddf gyffelyb i'r hon a geir gyda thannau'r delyn. Ond dylid sylwi bod rhai pibelli yn agored yn y pen uchaf, tra y mae eraill ynghau, ac y mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr yng nghywair y nodyn. Er enghraifft, rhydd pibell wedi ei chau nodyn wythfed yn is na phibell agored o'r un hyd. Ffordd arall o ddywedyd hyn yw fod pibell wedi ei chau o 8 troedfedd a phibell agored o 16 troedfedd yn rhoi'r un nodyn. Os felly, medd y darllenydd, paham y defnyddir pibelli agored o gwbl, os gwna rhai wedi eu cau a hanner eu maint y tro. Yr ateb yw: er bod y ddwy bibell a nodwyd yn rhoi seiniau o'r un cywair, eto y mae nodyn y bibell agored o nodwedd dlysach a chyfoethocach. Y mae iddo "liw" (quality timbre) gwahanol a gwell nag eiddo'r bibell sy wedi ei chau. Arweinia hyn' ni at y cwestiwn diddorol a phwysig, sef ansawdd neu "liw" sain, hynny yw, y nodweddion hynny sy'n ein galluogi i wahaniaethu rhwng sain o gywair arbennig pan seinier hi gan wahanol offerynnau. Tybier, er enghraifft, fod y darllenydd wrth basio heibio i ryw dŷ yn clywed merch yn canu oddi mewn, a bod gwahanol offerynnau —y piano a'r crwth, dyweder—yn ei chyfeilio. Hysbys yw i bawb fod y gwrandawr oddi allan yn alluog i ddywedyd pan glywo unrhyw nodyn arbennig, pa un ai r gantores, ai'r piano, ai'r crwth a'i "canodd." Sut felly, gan mai yr un nodyn oedd? Yr ateb yw: fod gan bob offeryn ei " liw " arbennig ei hun. Ceisiwn egluro'r rheswm am hyn.