Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Do, a naddo hefyd, heblaw eich bod chi wedi treulio'r darn ola ohoni hi efo'r siglen," ebe'r dyn. "Nid cysgu fasech chi'n ei alw fo, ond fferru. Onibae am y fale lleuad mi fasech wedi hen farw. Mi glywsoch am y draenog, a'r twrch daear, a rhyw greaduried felly, sy'n gymint o ffrindie â'r Tylwyth Teg, fel y mae nhw'n cysgu trwy'r gaea—nid cysgu fel yr edrychir ar gysgu'n gyffredin y mae nhw chwaith. Eu gwaed nhw sy'n oeri, nes ei fod o bron wedi rhewi, ac y mae eu calonne nhw'n curo'n wan iawn, rhyw chwarter byw y mae nhw. Dene sut y mae nhw'n byw o gwbwl heb fyta am gymint o amser,—dydi eu cyrff nhw ddim yn treulio ond ychydig iawn arnynt eu hunen. Mae'u bywyd nhw wedi ei droi i lawr, megis, fel lamp. Mae Shonto'n gwybod y cwbwl amdanyn nhw. Corff sy'n treulio llawer arno'i hun sy'n byta llawer, wyddoch. Os ydech chi am fyw'n hir rhaid i chi fyw'n aradeg. Felly y bu hi arnoch chithe yn yr ogo. Yr oedd eich cyrff chi'n hollol oer, fel lwmp o rew, neu oerach. Rydech chi wedi rhewi am dros wythnos, ac nid cysgu."

Yr oedd y ddau wedi eu glân syfrdanu, ac mor fud â phe na bai eu tafodau wedi dechreu meirioli eto. Aeth dyn y lleuad yn ei flaen i siarad,—

"Mae hi mor oer ar y lleuad yma yn y nos ag ydi hi o boeth yn y dydd," eb ef, "Pe base dyn heb fyta fale lleuad yn dwad yma, mi rewai yn ddelw ymhen ychydig eiliade; ac yn lle eich