Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod chi'n gorfod cerfio carreg fedd iddo fo, mi fase'i gorff o 'n gneud carreg fedd iawn iddo fo'i hun, pa ddelw berffeithiach o ddyn na fo'i hun wedi rhewi? Y drwg ydi na fase'i goffa fo ddim. yn hir yma. Unweth y code'r haul mi feiriole'n llyn. Cofiwch, 'mhlant i, am fyw fel y meder eich coffa chi ddal gwres yr haul, wedi i'r nos gilio, ac i'r byd eich gweld chi yn y'ch lliw y'ch hunen. Pe gafaelai rhywun heb fyta fale lleuad mewn carreg yma yn y nos, mi fase'n serio ei law o fel tase hi'n lwmp o dân, gan mor oer ydi hi. Mae peth oer iawn, a pheth poeth iawn, yn gneud yr un peth i chi, wyddoch. Mi feder hyd yn oed chi, sy wedi byta fale lleuad, deimlo tipyn o'r dylanwad yma, os carech chi deimlo'r cerryg o'ch cwmpas, er nad yden nhw ddim mor oer ag oedden nhw ychydig funude'n ôl."

Plygodd Moses, a chyffyrddodd â charreg, ond neidiodd i fyny fel pedfai wedi ei saethu, gan drawo'i fys yn ei enau, a rhoddi'r peth tebycaf i sgrech ag a allai neb mewn byd di—sŵn. Yr oedd Dic ar wneuthur yr un peth pan ddigwyddodd hyn i Foses, a bu hynny'n ddigon iddo.

"Mae'r garreg yma'n boeth fel tân," ebe Moses pan ddaeth ato'i hun, "welwch fel mae hi wedi llosgi'n llaw i." Ac ar law Moses yr oedd llosg ffyrnig.

"Ddyle hi ddim gneud fel ene iti, chwaith," ebe'r dyn, mae'n rhaid fod dylanwad y fale lleuad yn dechre darfod arnat ti. Nid poeth