Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel tân ydi hi, ond oer fel rhew,—oerach o lawer iawn na rhew. Mi fase pethe yr un fath ar y ddaear pe tase hi bythefnos heb haul."

Ar hyn sylwodd y ddau fod y goleu glas yn cynhyddu, a gofynasant beth ydoedd mewn gwirionedd, canys nid oedd yn ddim tebyg i wawr. Gwelsai'r ddau'r wawr yn torri unwaith, wedi iddynt godi'n fore i fynd i gasglu bwyd y barcud.

"Dowch efo mi," ebe'r dyn, "i'w weld o 'n well." A chydag ef yr aethant i ben mynydd. Yr oedd popeth,—pob carreg, pob tipyn o lwch a thywod, pob bryn a mynydd, a gwastadedd a dyffryn, yn hollol las, ac yr oedd yr olygfa mor ddieithr fel nad oedd ganddynt ddim llai nag ofn.

"Y wawr ydi hi'n siwr i chi," ebe'r dyn, "nid coch, a phob lliw, ydi'r wawr yma, ond glas." 'Rargien, mae o 'n ole annaturiol," ebe Dic, â rhyw ias yn mynd drosto.

"Pam y mae'r wawr yn las yma, deydwch?" ebe Moses wrth y dyn, gan edrych yn ddyryslyd.

"Dydw i ddim yn glir iawn ar y peth fy hun," ebe'r dyn, "ond mi fu Shonto'n ceisio 'sbonio pethe imi pan weles i wawr y ddaear, a sylwi bod hi'n goch."

Edrychodd y dyn i fyny, a daliodd ei olwg yn hir a hiraethus ar y ddaear, oedd fel lleuad fawr ar fachlud. Aeth yn ddistawrwydd trwm. Toc, gwelent rywbeth du yn dyfod o'r gwagle o gyfeiriad y ddaear, fel mellten, ac yn dyfod yn union tuagatynt. Disgynnodd ar y lleuad, bron yn eu hymyl,