Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi ddo i os ei di," ebe Moses.

"Wel," ebe Dic wrth yr hen ddyn, "mi ddown ni, 'te."

Chwarddodd yr hen ddyn tros y wlad. Plygodd ac estynnodd ddau beth crwn iddynt allan o fasged a orweddai wrth ei draed,

"Bytwch rhein bob tamed," eb ef. "Be yden nhw?" ebe'r bechgyn.

"Fale lleuad," ebe'r hen ddyn. "Feder neb o bobol y ddaear fyw dim yn y lleuad, heb fyta ffrwythe'r lleuad cyn cychwyn, ac mi wna'r rhein y'ch cadw chi rhag pob peryg tra byddwch chi yno.

"Pam?" ebe Dic.

"Os na fyddwch chi'n byta ffrwythe'r lleuad," eb ef, "mi gollwch y'ch gwynt cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi yno, ac mi fyddwch farw. O achos 'does dim gwynt yn y lleuad, a rhaid i chi ddysgu byw yno heb gymryd y'ch gwynt. Ac mae'r fale ene'n cynnwys digon o wynt i'ch cadw'n fyw tra byddwch yno." Dechreuodd y ddau fwyta'r afalau lleuad,-

"'Does dim blas arnyn nhw," ebe Dic a Moses yn unllais.

"Nag oes, debyg iawn," ebe'r dyn, "'does dim blas ar wynt,—gwynt y lleuad na gwynt y ddaear, er bod y ddau'n bur wahanol. A fale gwynt ydi fale'r lleuad." Ac eb ef dan ei lais, "Mae'n rhyfedd hefyd fod y Llotyn Mawr mor hoff o fyw ar wynt, a chyn lleied o flas arno.'