Yr oeddynt wrth eu bodd yn yr ysgol. Holodd y dyn hwy am y ddaear,—am eu cartrefi, a'r ysgol, a'r capel, a'r ffeiriau, a phopeth. A hwythau'n ateb, a gweld y gwaith yn felysach na hyd yn oed chwarae. "Rwan," ebe'r dyn, "holwch chi fi."
A dyna ddechreu. Y cwestiwn cyntaf oedd,— o ble yn y gwagle y deuai'r cerryg mawrion o hyd. Wel," ebe'r dyn, "mi ddeyda i chi gore y medra i, yn ôl fel rydwi'n cofio stori Shont—, fel rydwi'n cofio'r stori," ac edrychodd yn swil ar Ddic.
"Dowch i eiste'n y fan yma i enau'r ogo," eb ef, "a welwch chi'r seren ddisglair iawn acw?" "Gwelwn," ebe hwythau, a dyna'r tro cyntaf iddynt sylwi bod y sêr i'w gweld liw dydd o'r lleuad.
"Nid seren ydi hi," ebe'r dyn, "ond planed. Dydi seren a phlaned ddim yr un peth. Tân fel yr haul ydi seren, ond byd fel y lleuad, neu'r ddaear, ydi planed."
"Ond mae nacw'n goleuo," ebe'r ddau ynghyd. "Nag ydi," ebe'r dyn, "dydi'r blaned acw ddim yn goleuo, na'r ddaear, na'r lleuad yma. Fuoch chi rywdro'n chware â darn o ddrych yn yr haul? Yr ydech chi'n dal y drych yng ngolwg yr haul, a gwelwch fod gole'n disgleirio o'r drych ar le nad oes haul arno. Nid y drych sy'n goleuo, ond yr haul, a'r drych yn taflu neu adlewychu ei oleuni. Felly'r ddaear, a'r lleuad, a'r planede