Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gyd. Yng ngoleu'r haul y mae nhw, ac yn taflu'r gole ar ei gilydd. Dene y mae'r ddaear yn ei neud pan fydd hi fel lleuad lawn, a dene y mae'r lleuad yn ei neud pan fydd hi'n llawn,' fel y bydd pobol y ddaear yn galw'r peth."

"'Ond," ebe Dic, "dydi gwyneb y ddaear ddim yn wydyr."

" 'Nag ydi," ebe'r dyn, ond mae arni hi ddigonedd o ddŵr, a gweithia hwnnw fel gwydyr. Ac yn wir, y mae tipyn o allu ym mhopeth— yn y glaswellt, a'r cerryg, a dail y coed—i daflu goleuni'r haul ar bethe."

"Rydwi'n gweld rwan," ebe Moses, oedd wedi bod yn ddistaw'n hir, "ond dyden ni ar wyneb y ddaear ddim yn gweld y ddaear yn goleuo fel yr yden ni'n gweld y lleuad, ac fel ryden ni'n gweld y ddaear wedi i ni ddwad i'r lleuad."

"Nag ydech," ebe'r dyn, "ond meddyliwch chi am daflu bwceded o ddŵr ar lawr dros bob man, prun ai pan fydde fo felly, neu wedi ei roi yn y bwced y disgwyliwch chi gael yr olwg ddyfna arno fo?"

"Yn y bwced," ebe Dic, "mi fydde'n ddyfnach o lawer."

"Da iawn," ebe'r dyn, mae'r gole yr un fath. I bobol y ddaear mae'r gole wedi ei wasgaru dros hanner y ddaear i gyd, ac nid oes neb yno'n gweld ond tipyn bach, bach, o'r hanner hwnnw. I ni oddiyma dydi'r ddaear ddim yn rhyw lawer iawn mwy na phêl droed go fawr; gryn dipyn