Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwy, wrth gwrs, nag ydi'r lleuad o'r ddaear; ac yr yden ni'n gweld hanner y ddaear i gyd, a hwnnw dipyn mwy na phêl, a holl oleuni hanner y ddaear wedi ei grynhoi i'n golwg ni i gylch mor fach â hynny. Felly, 'does ryfedd ei bod hi mor ddisglair."

Ond," ebe Moses, "dydi hynny ddim yn sbonio'r cerryg mawr yma."

"At hynny rydwi'n dwad," ebe'r dyn.

"Mae'r ddaear a'r planede acw a'r lleuad yn fydoedd. Try'r lleuad o gwmpas y ddaear, a'r lleuad a'r ddaear o gwmpas yr haul, fel y gwyddoch chi. A thry'r planede i gyd, fel peli mawr, o gwmpas yr haul. Ond be pe tase un ohonyn nhw'n taro'n erbyn y llall, a'r ddau'n bostio?"

"Yn bostio?" ebe'r bechgyn yn wyllt.

"Ia, bostio," ebe'r dyn. "We! di, Dic, mae'n rhaid imi gael sôn am Shonto, dywed di a fynnot ti, o achos fo ddeydodd y pethe yma wrtha i."

"'Croeso i chi, ond i chi adael ei glwydde fo'n llonydd," ebe Dic. "Mi fedra i ei ddal o 'n eu deyd nhw, ond fedra i mo'ch diodde chi'n eu hail adrodd nhw. 'Does ene ddim blas ar gelwydd wrth ei ail adrodd o."

"Dene fo, felly," ebe'r dyn. "Fel hyn y gosododd Shonto'r peth,—deydwch chi fod ene garreg fawr yn rhywle, a rhywun yn gneud twll yni hi i'w chanol, a rhoi powdwr a thân ar hwnnw, be ddigwydde?'