Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Eithr, os gwir tystiolaeth Macdonald, ni pharhaodd hyn yn hir. Cafwyd llawer o anhawster i drefnu'r gymdeithas ar y llin- ellau newydd, a'r diwedd fu i'r trigolion ofyn i Owen gymeryd yr awenau i'w ddwy- law ei hun. Felly y bu, a dechreuwyd cyfnod o lwyddiant cyffredinol. Yn y Mawrth dilynol dywed y "New Harmony Gazette," newyddiadur wythnosol y symudiad dan olygiaeth Robert Dale Owen,<ref>Daeth efe drosodd i Harmony gyda'i dad ar ei ddychweliad o Loegr yn nechreu 1826.</ref> fod trefn wedi ei roddi ar bob adran o fasnach, fod y fferm yn dangos gweithgarwch egniol a dygn. Nid oedd mwyach segurwyr yn casglu yn finteioedd ar yr heolydd; a'r cyfarfodydd cyhoeddus, y rhai gynt oeddynt yn achlysuron manteisiol i arddangos gallu areithyddol, oeddynt bellach yn ymdrin yn unig ac yn effeithiol a'r amgylchiadau a goruchwylion y sefydliad. Eithr ym mis Ebrill, yr oedd rhai yn ceisio'n ddirgel rannu y sefydliad yn bedair cymdeithas, er mwyn prynnu'r lle. Gwelodd Owen y perygl orweddai yn hyn, ac y mae ar unwaith yn dewis pwyllgor o bump ar hugain i dderbyn pob aelod o'r newydd,-a'u dewisiadau i fod yn ddarostyngedig i gadarnhad Owen ei