Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hun. Rhannwyd yr aelodau yn dri dos- barth aelodau amodol, aelodau ar brawf, ac ymgeiswyr ar brawf. Pa beth ydoedd yr amcan mewn golwg wrth wneyd hyn nis gwn, oddieithr fod Owen wedi pender- fynu na byddai vested interest gan neb yn y lle oddigerth ef ei hun. Drwy hyn yr oedd pob gallu yn aros yn ei ddwylaw ef. Addawodd, modd bynnag, hunan lywodr- aeth i'r trigolion ymhen tair blynedd, os byddai dwy ran o dair yn teimlo eu hun- ain yn atebol i hynny. Yn Mai, 1826, ymneilltuodd nifer ychwanegol o'r aelod- au, a ffurfiwyd cymdeithas newydd dan enw cyfriniol a rhyfeddol, Feiba Peven,<ref>Tybiai Noyes fod yr enw hwn yn dal rhyw berthynas a lleoliad daearyddol y sefydliad.</ref> ond cyn diwedd y mis yr oedd Harmony eto yn llawn.

Tua'r adeg hwn, bu llawer o helynt. ynghylch rhannu'r ciddo: a galwyd cyf- arfod o'r holl drigolion ar y 30ain o Fai. Penderfynwyd ffurfio pedair cymdeithas, yn meddu hunanreoliad, ac i drafnidio a'u gilydd drwy gyfrwng arian papur. Y mae yn amlwg fod rhyw ddylanwadau dir- gel drwy'r holl amser yn ceisio gwrth- weithio yn erbyn gallu Owen. Sier ydyw