Tudalen:Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhondda ac mai ef oedd un o arweinwyr mwyaf didwyll Plaid Cymru, ond dysgodd Pantycelyn ef i chwilio ei gymhellion gwleidyddol.

'R oeddit tithau wrth dy fodd yn pryfocio'r corwyntoedd
gan ddanglo'n gellweirus i ddifyrru'r rabl geg-agored.

Gwelodd yn ei areithiau gwleidyddol yr 'hunan-dosturi celwyddog a'r 'human-fost seimllyd o ffals. Cymysg oedd y cymhellion. Creadur brith yw dyn.

'R oedd yn aelod gweithgar ym Methania, Tonypandy, ac âi i bregethu yng nghapeli'r Cwm a chymoedd eraill, pan na fedrai Capel gael neb arall i lanw pulpud. Ei bregeth fawr oedd y bregeth ar hanes Pedr yn pysgota, yn y bennod olaf o Efengyl Sant Ioan. Tynnai ei ferched ei goes ynglŷn â phregeth y pysgota.' Yn niwedd ei Bryddest troes y bregeth yn gân. Yn y darn hwn eto fe geir chwilio cymhellion; y cymhellion y tu ôl i'r 'pulpuda, y canu emynau a'r gweddïo ar Dduw. Un cymhelliad oedd yr awydd am grefydd feddal y diletant, y grefydd oedd fel tŷ wedi ei godi ar 'chimera awr iasber llencyndod'; a'r llall oedd yr ymwingo rhag y grefydd galed' (chwedl Pantycelyn yn Theomemphus). Crefydd Abasis oedd y naill a chrefydd San Pedr oedd y llall. Meddai Pantycelyn am Abasis:

Fe gafodd wraig o'r diwedd, ei grefydd ro'dd e' bant,
Ac enw gŵr ddaeth arno, fe gollodd enw sant.

Dymunai'r Pryddestwr fel Abasis gael aros gyda'r teulu a'r tylwyth ac yn y gymdogaeth a chael ysgwyd 'cocktails' yn y parlwr:

Ond gad imi, atolwg, er pob archoll a fai erchyll
gael colli bod yn sant.

Canlynodd Pedr Grist gan adael ar ei ôl y teulu, y tylwyth, y cychod, y rhwydi ac oriau 'iasber llencyndod'. Y gwahaniaeth rhwng Abasis a San Pedr yw'r gwahaniaeth rhwng crefyddolder a Christionogaeth.

Cafodd Pantycelyn yn ein cyfnod ni ac yn ein Cymru ni ddisgybl yn Kitchener Davies. Cerdd yn nhraddodiad Bywyd a Marwolaeth Theomemphus yw Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu. Flynyddoedd yn ôl gofynnodd Aneirin Talfan iddo lunio rhaglen nodwedd ar Theomemphus; gofyn iddo foderneiddio Theomemphus, sef ei godi o'r ddeunawfed ganrif a'i blanu yn yr ugeinfed. Ni chafodd hamdden i lunio'r rhaglen nodwedd, ond dyna a wnaeth yn y Bryddest hon. Yn Theomemphus y bennod bwysicaf iddo ef oedd y Chweched, sef Hanes Abasis. 'R oedd crefydd a thynged. Abasis iddo yn argyfwng ac yn dröedigaeth. Y mae i'r Bryddest yr un nodweddion â Theomemphus, sef 'unplygrwydd ymroad',