Tudalen:Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid pawb sy'n cael cyfle i golli'i fam yn chwech oed,
a chael dysgu actio mor gynnar.
Neu a wyt ti'n dy gofio di'n bymtheg oed
yng nghwrdd gweddi gwylnos Rhys Defi?
'Roedd llifogydd dy ddagrau di'n boddi hiraeth pawb arall,—
("ar dorri 'i galon fach" medden' nhw, "druan bach")—
a llais dy wylofain di fel cloch dynnu sylw;
Dim ond am fod hunandod hiraeth pobol eraill
yn bygwth dy orchuddio di, a'th gadw di y tu allan i'r digwydd.
'Roet ti'n actor wrth dy grefft, 'does dim dwywaith,
ac yn gwybod pob tric yn y trâd erbyn hynny.
O ydy, mae hi'n ddigon gwir, wrth gwrs,
na wnest ti fyth wedyn golli dagrau wrth un gwely cystudd
nac wylo un defnyn ar lan bedd neb
o gywilydd at dy actio "ham,"
a gormodiaith dy felodrama di dy hun, y tro hwnnw.
Onid amgenach crefft gweflau crynedig
a gewynnau tynion yr ên a'r foch,
llygaid Stoig, a gwar wedi crymu,—
mor gyrhaeddgar eu heffaith ar dy dorf-theatr di?
"O, 'roedd e'n teimlo, druan ag e, 'roedd e'n teimlo,
'roedd digon hawdd gweld, ond mor ddewr, mor ddewr."
Arwr trasiedi ac nid melodrama mwy—uchafbwynt y grefft,
a thithau heb deimlo dim byd
ond mwynhau dy actio crand, a chanmoliaeth ddisgybledig
y dorf o glai meddal dan dy ddwylo crochenaidd.
Na, 'ddaeth dim awelig i gwafrio dail dy ganghennau di,
chwaethach corwynt i gracio dy foncyff
neu i'th godi o'th bridd wrth dy wraidd.
'Ddigwyddodd dim byd iti erioed
mwy nag iti glywed sŵn y gwynt sy'n chwythu
y tu hwnt i ddiogelwch y berth sydd amdanat.
   
'Roedd tir Y Llain ar y gors uchel
sydd ar y ffin rhwng Caron-is-Clawdd a Phadarn Odwyn
yn goleddu o'r Cae Top i lawr at Y Waun,
a thu hwnt i'r Cae Top 'roedd llannerch o goed duon—
pinwydd a 'larch' tal—i dorri'r gwynt oer,
gwynt y gogledd.
Ac yna'r mân gaeau petryal
fel bwrdd chwarae draffts, neu gwilt-rhacs,
ac am bob un o'r caeau, berth.