Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth bregethu gair y deyrnas,
Weithiau foreu, weithiau nawn;
Bryste, hithau, oer derfysglyd,
Glywodd swn ei 'fengyl gref;
Môr a thonau, Ilif a storom,
Gurodd ganwaith arno ef.

Clywsom fel y gwrthwynebodd
Ef heresiau diried ryw;
Mellt a tharan oedd ei eiriau,
I elynion 'fengyl Duw:
Cywir yn ei egwyddorion,
Syml, gonest yn ei ffydd;
Elusengar yn ei fywyd,
Llwyr ddefnyddiol yn ei ddydd.

Rhodd ei Arglwydd arno ddyoddef
Amryw gystudd, amryw boen,
Fel y cai yr unrhyw fedydd
Ag a gafodd 'r addfwyn Oen;
Rhaid ei buro â chystuddiau,
Rhaid oedd diffodd pob rhyw flas
Ag oedd ar y cyfan welodd
Dan yr wybr deneu las.

Penderfynodd nefoedd oleu
Naill ai dwyn neu guro ei fryd
O bob tegan, o bob gwrthddrych,
Welodd llygad yn y byd:
Do, fe'i siomwyd ef yn hollol,
Nid y ddaear oedd ei le;
'Roedd y fainc am gael ei weled
Yma er's dyddiau yn y ne'.

Dwy o'i wragedd, yn mhlith myrddiwn
Ddaeth at borth y ddinas bur,
Idd ei roesaw i'r heolydd
Hyacinth a grisial clir;
'Nawr chwiorydd ydynt iddo,
A "fy mrawd" y galwant ef;
Nid oes gwreica, nid oes gwra,
Ddim drwy holl balasau'r nef.