Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyr'd i mewn, medd perffaith seintiau,
'Rwyt yn awr yn addas wiw
Fod yn nghwmni pur seraphiaid,
Ac i weled wyneb Duw;
Mae dy delyn aur yn barod,
Ac mae gwylwyr caerau'r ne'
Wedi dweyd yn awr er's oriau
Dy fod yn dyfod tua'r lle.

Ac mae'r nablau yma'n chwareu,
'R harpsicord, a symphon lawn,
Dulcimer, a'r delyn fwyna',
Yn gynar neithiwyr y prydnawn;
Pawb sy'n gorfoleddu'n gyson,
Angel, seraph, hefyd saint,
Weled glân etifedd bywyd
Heddyw'n gwisgo 'i freiniol fraint.

Hyfryd y llefarodd Uzziel!
Eto hiraeth oedd yn nglŷn,
Mi ruddfanais, ac a dd'wedais,
Heddyw collais werthfawr ddyn;
Un o gedyrn Israel gwympodd,
Un cadarnaf oll o'r rhif
A'm gadawodd yn y tonau
I ymdrechu a'r garw lif.

Edrych ydwyf ar y rhwydau
Daenwyd yma, daenwyd draw,
Maglau dyrys ar bob cefnffordd,
Ar bob llwybr, ar bob llaw;
Pob rhyw lwyn, a pherth, a d'rysni,
Pob rhyw ogof sydd yn llawn
O fwystfilod hyll yr olwg,
Rheibus, a gwenwynig iawn.

Ac anaml yw'r bugeiliaid
Sydd yn rhoddi rhybudd brau,
Pan fo'r arth, y llew, a'r llwynog,
At y defaid yn nesâu;
Pan fo erchyll gyfeiliornad,
Tanbaid fel ystorom wynt,