Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bobl gyffredin, i gael lle i'w arwain e at eu meddyliau eu hunain, i ddwyn ar ddeall i'w gwran- dawyr y parch a ddylent roi iddynt hwy, ac i amryw o rai eraill a fo'n byw'n esmwyth ar chwys a llafur pobl druain ddiniwaid. Ac ni lefys y radd isaf o'r offeiriadau bregethu'n groes i feddyliau eu meistriaid, neu mi gollant y dafell denau maent yn ei gael, ac efallai eu taflu i garchar yn y fargen.

Gorthrwm Brenin

Pan gaffo un dyn ffol-falch le uchel tan y brenin mae ef yn fwy gorthrymwr na'r brenin ei hun; ac nid oes ond pobl ffol-falch ffroenuchel chwannog, ymreibwyr, yn ymdynnu am fyned yn agos at frenhinoedd yn yr oes yma nac mewn un oes aeth heibio; oherwydd hynny mae Samuel yn enwi tywysogion neu gapteniaid deg a deugain. Dyna orthrymder yn dechrau; mae yn gosod deg a deugain o wyr tan orthrymder un dyn; a'r dyn hwnnw'n byw wrth wenieithio i'r brenin, ac yn ei gynghori ef i gadw ychwaneg o wŷr, ac yn enwedig godi ychwaneg o drethi, i gael iddynt hwy gyfleustra i adeiladu eu mawredd eu hunain wrth wasgu ar rai eraill. Rhyfedd mae Samuel yn dweud mor eglur; byddai raid iddynt aredig ei âr, a medi ei gynhaeaf, a gwneuthur arfau ei ryfel. Nid eich rhyfel chwi, eithr ei ryfel ei hun. Mae'r geiriau Ei Ryfel, yn dwyn ar ddeall i'r bobl, y gwnai'r brenin a oeddynt yn ei geisio yn eu hynfydrwydd, yn erbyn ewyllys Duw, fyned i ryfel pan welai ef yn dda ei hun, pa un bynnag ai bod ei ddeiliaid ef am ryfela ai peidio; y byddai raid iddynt wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

Yr oedd y bobl yn meddwl, ond cael brenin, y gwnai ef ymladd yn erbyn eu gelynion hwy; a'r