Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arglwydd yn dywedyd wrthynt y cymerai ef eu gwinllannoedd a'u meysydd hwy, ac y rhoddai ef hwy i'w weision ac i'w ystafellyddion. Pan gaffo un dyn rwysg a gallu yn ei law ei hun i gymryd pethau pobl eraill, heb na chennad na chyfarch; a chwedi cymryd mwy nag allai ei archwaethau cnawdol ei hun ddifrodi, rhoi y gweddill i'w weision, a'i buteiniaid, ac i ryw wag ladron eraill a fyddai o'i ddeutu ef; ac yn lle ymladd rhyfeloedd y bobl, a threchu eu gelynion hwy, ef ei hun oedd y gelyn mwyaf a allasai y bobl gael. Pa elyn pellennig a fuasai yn medru ymddwyn mor gnafaidd a chymeryd eu meibion, a'u merched, a'u defaid, a'u caeau, a'u gwinllan- noedd, a'u holew-winllannoedd gorau oddi arnynt, ac yn eu rhoi nhw i'w gyfeillion ei hun? Pan gollo dyn ei holl dda bydol, nid oes ganddo ond ei hoedl i'w cholli yn y byd yma; a phan welo dyn fod enafiaid segurllyd wedi ei drethu a'i ddegymu ef allan o'i gaban, a bod rhaid iddo oherwydd ei onestrwydd fyned i grwydro am damaid o fara, mae dyn felly yn ei ddibrisio ei hun i wneuthur peth nas mynnai; ac ni waeth ganddo mo'r llawer ped fae'r enafiaid a'r lladron aeth â'i eiddo ef yn myned a'i fywyd ef yn rhagor.

Mae'r Arglwydd yn dweud y caledwch a ddeuai ar yr Israeliaid oherwydd eu brenin; ac ymhellach, y byddent yn gweiddi oherwydd eu brenin. Rhaid ei bod hi'n galed ar ddynion mewn oedran cyn gwaeddo hwynt o ran eu caledi. A'r Arglwydd yn dweud na wrandawai ef ddim arnynt yn y dydd hwnnw, oherwydd eu bod yn gwrthod yr Arglwydd, ac yn ceisio dyn daearol i deyrnasu arnynt. Wrth hynny gallwn ddeall,